Mae Mudiad Meithrin yn falch o groesawu aelodau newydd i’w Fforwm Rhieni Di-Gymraeg cenedlaethol, sy’n rhoi llais i rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg ac sy’n dewis addysg a gofal blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg i’w plant.
Dyma aelodau newydd y fforwm:
| Laura Charlesworth, Sir Gar | Melinda Nagy, Bro Morgannwg |
| Vixie Williams, Abertawe | Kate Jones, Caerdydd |
| Kashmira Sohal, Rhondda Cynon Taf | Katherine Bester, Sir Gar |
| Caoimhe Martin, Fflint | Olivia Beaumont, Sir Fynwy |
| Samantha O’Rourke, Conwy | Catherine Charlwood, Ceredigion |
| Chelsea Humphreys, Wrecsam
|
Nod y Fforwm Rhieni yw sicrhau bod profiadau, barn a syniadau’r teuluoedd di-Gymraeg yn cyfrannu at ddatblygiad gwaith Mudiad Meithrin. Mae’n cynnig cyfle i rieni rannu eu safbwyntiau, herio’r Mudiad mewn ffordd adeiladol a helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar hyd eu taith gyda’r Gymraeg.
Mae aelodau’r Fforwm yn dod â phrofiadau amrywiol, ond maent yn rhannu’r un awydd i weld eu plant yn elwa o gyfleoedd addysg Gymraeg ac yn datblygu cysylltiad â’r iaith a diwylliant Cymru. Mae eu profiadau’n amrywio o ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u plant i ailgysylltu â’r iaith a magu’r genhedlaeth nesaf yn ddwyieithog.
Yn ôl Kashmira Sohal o Rhondda Cynon Taf, aelod newydd y fforwm,
“Nid ydw i na fy ngŵr yn siarad Cymraeg, ond rydym yn frwdfrydig am roi’r cyfle i’n merched dyfu’n ddwyieithog. Rydym yn ystyried gallu siarad Cymraeg yn rhodd go iawn ac eisiau i’n merched dyfu gyda chariad at yr iaith, gwerthfawrogiad o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru, a theimlad o berthyn i’r lle maen nhw’n galw cartref.”
Ychwanegodd Dr Catrin Edwards, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin,
“Rydym ni yn croesawu aelodau newydd ein fforwm rhieni ac yn edrych ymlaen i weithio’n agos gyda hwy am y cyfnod i ddod. Mae Mudiad Meithrin am sicrhau bod y Gymraeg ac mynediad at ofal plant cyfrwng Cymraeg yn agored i bawb.
Mae’r fforwm rhieni yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i waith Mudiad Meithrin ac yn sicrhau bod lleisiau rhieni o bob cefndir yn cael eu cynrychioli a’i clywed gan helpu yn y pendraw i greu mwy o gyfleoedd i blant a theuluoedd ledled Cymru o elwa o’r Gymraeg.”
Mae Mudiad Meithrin yn edrych ymlaen at gydweithio â’r aelodau newydd, gan sicrhau bod safbwyntiau rhieni’n parhau i gyfrannu at waith y Mudiad a dyfodol addysg Gymraeg yng Nghymru.