Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Y digwyddiad ym Meithrinfa Medra, Llangefni, fydd digwyddiad ffurfiol olaf Sally Holland fel Comisiynydd Plant Cymru.

Bydd pecyn adnoddau Hawliau Plant Blynyddoedd Cynnar; pecyn a gynhyrchir yn arbennig gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yn cael ei lansio yn swyddogol ym Meithrinfa Medra, Llangefni, ar fore Iau, Ebrill 7fed yng nghwmni Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru.

Mae’r pecyn yn cynnwys cyfres o adnoddau a gweithgareddau sydd wedi cael eu datblygu er mwyn cyflwyno hawliau plant i blant bach ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar.

Cynhelir y lansiad rhwng 10am-11am, ac ymysg rhai o’r siaradwyr yn y digwyddiad fydd Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, Dr Gwenllian Lansdown Davies, a’r Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

Dywedodd Sally:

“O’r eiliad maen nhw’n cael eu geni mae gan bob plentyn hawliau penodol. Mae’r hawliau yn rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ac yn amlinellu’r pethau mae angen ar blant i dyfu’n hapus, yn iach, ac yn ddiogel. Mae dysgu am yr hawliau yma yn helpu plant i ddeall y ffordd dylen nhw gael eu trin gan yr oedolion o’u cwmpas, ac yn rhoi pŵer iddyn nhw weithredu os ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg. Mae yna lot o ffyrdd creadigol i helpu’r plant ieuengaf i fwynhau dysgu am eu hawliau, ac i ddod yn gyfarwydd gyda’r cysyniadau ehangach tu ôl yr hawliau hynny. Rydw i eisiau i bob plentyn yng Nghymru i fod yn rhugl yn iaith eu hawliau, a dydy hi byth yn rhy gynnar iddyn nhw i ddechrau dysgu amdanynt.”

Dywedodd Vanessa Powell, Prif Swyddog y Cyfnod Sylfaen Mudiad Meithrin:

Pan oeddwn yn gweithio gyda chydweithwyr ar gyd-awduro’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir fe es i chwilio am adnoddau ar gyfer ymarferwyr blynyddoedd cynnar ar hawliau plant. Mae’r cwricwlwm wedi ei ddatblygu o safbwynt y plentyn gyda llais y plentyn i’w glywed yn gryf trwy’r holl ddogfen. Doedd dim adnoddau penodol ar gael yn Gymraeg i blant o dan 5 oed ac felly fe wnaeth Mudiad Meithrin a Swyddfa’r Comisiynydd Plant ddechrau cydweithio i ddatblygu adnoddau pwrpasol.

Rydym yn falch iawn o’r adnoddau sydd wedi eu datblygu ac o’r hyfforddiant sydd wedi ei greu i gydfynd gyda’r adnoddau.”

Bu Mudiad Meithrin yn cynorthwyo i beilota’r pecyn yn un o’i Gylchoedd Meithrin i sicrhau ei fod yn addas i blant oedran cyn-ysgol. Dyma ddywedodd Debbie Ivins – arweinydd Cylch Meithrin Cwtsh Pentrebaen ar ôl peilota’r gweithgareddau yn y pecyn:

“Teimlwn fod cyflwyno hawl y plant i fod yn hapus, ddiogel ac iach yn Cwtch Pentrebaen, gartref ac yn eu cymunedau, yn sail dda iawn i’w dyfodol. Credwn ein bod ar y trywydd i sicrhau unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelod gwerthfawr o gymdeithas.”

Bu hyfforddiant ar Hawliau Plant gan swyddogion Comisiynydd Plant Cymru yn gynharach y mis hwn ar gyfer aelodau Mudiad Meithrin, a darperir drwy adran hyfforddiant Mudiad Meithrin, sef Academi.