Newyddion da i ffrindiau bach Dewin a Doti! Wedi dwy flynedd o sioeau digidol yn sgil pandemig Covid-19, mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Gŵyl Dewin a Doti yn dychwelyd ar ei ffurf draddodiadol eleni ac yn teithio o gwmpas Cymru am dair wythnos rhwng 13 Mehefin a 1 Gorffennaf 2022.

I ddathlu’r newyddion da bydd plantos o Gylchoedd Meithrin sir Ddinbych a’r cyffiniau yn cynnal gorymdaith o gwmpas maes Eisteddfod yr Urdd am 10.30 fore dydd Sadwrn 4 Mehefin, gan orffen ger llwyfan y maes i gael blas o’r sioe fydd yn cael ei chynnal gan y diddanwr plant poblogaidd Siani Sionc.

Y thema eleni yw ‘Cadw’n Heini’ a bydd Siani Sionc yn arwain y Daith – gyda chymorth Dewin a Doti wrth gwrs! Daeth Siani Sionc i boblogrwydd yn sgil ennill cystadleuaeth Meithrin Talent a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin ac Urdd Gobaith Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn 2019.

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ledled Cymru gan ymweld ag Ynys y Barri, Abertawe, Caerfyrddin, Llanrhystud, Y Trallwng, Wrecsam, Llandudno, Bala, Ynys Môn a Chaernarfon.

Meddai Sian Elin Williams, sydd yn chwarae cymeriad Siani Sionc:

“Fues i’n ddigon ffodus i ennill cystadleuaeth Meithrin Talent yn 2019 ac ers hynny dwi wedi gallu sefydlu Siani Sionc a chael profiadau di-ri. Dwi wedi medru mynd o gwmpas nifer fawr o feithrinfeydd ac ysgolion ar hyd a lled Cymru, ac hefyd wedi cael profiadau arbennig fel arwain cyfres canu a dawnsio a chreu DVD i’r Mudiad o’r enw, ‘Dawnsio gyda Dewin a Siani Sionc’.”

Meddai Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin,

“Mae Gŵyl Dewin a Doti yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau’r Cylchoedd Meithrin erbyn hyn ac mae’n ffordd wych o ddod â’r Gymraeg yn fyw yn enwedig i deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn y cartref. Rydym yn falch iawn o allu mynd yn ôl ar daith ar hyd a lled Cymru.”

Cynhelir sesiwn cyntaf Gŵyl Dewin a Doti ar ddydd Llun, 13 Mehefin yn Ynys y Barri.

Cliciwch yma am fanylion y daith: Gŵyl Dewin a Doti – Mudiad Meithrin