Credaf bod nifer o blant o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws Cymru wedi profi edrych ar silffoedd o lyfrau efo cymeriadau nad ydyn nhw’n edrych yn debyg iddyn nhw; wedi eistedd trwy wersi am arwyr a modelau rôl nad ydyn nhw’n edrych yn debyg iddyn nhw; ac wedi eistedd mewn ystafelloedd dosbarth efo athrawon nad ydyn nhw’n edrych yn debyg iddyn nhw chwaith. Os oes gwers, neu lyfr efallai, am berson arbennig sy’n Ddu, fel arfer mae nhw’n Americanwr ac yn ymladd yn erbyn hiliaeth. Er bod y straeon yma’n angenrheidiol, mae angen dathlu’r pobl sydd wedi bod yn byw yma yng Nghymru ers cannoedd o flynyddoedd ar yr un pryd.
Fel rhan o fy ngwaith i’r Mudiad, rydw i’n datblygu prosiect i blant bach i ddathlu presenoldeb unigolion a chymunedau Du yng Nghymru. ’Does dim modd anwybyddu hiliaeth yn gyfan gwbl wrth ddatblygu prosiect fel hwn, ond nid hiliaeth fydd canolbwynt pob adnodd.
Bydd y prosiect yn cymryd siâp straeon gweddol fyr, gan eu bod ar gyfer plant bach, ac yn ffocysu ar bump person, grŵp neu ddigwyddiad dylanwadol. Fel y soniais, byddwn yn trafod hiliaeth ac annhegwch i raddau, ond ein nod o’r cychwyn yw creu rhywbeth sydd yn bositif ac yn ysbrydoledig gan ein bod ni’n ymdrin efo unigolion sydd yn greadigol, yn gryf, neu’n ddewr er enghraifft. Maent yn arbennig gan eu bod nhw’n arbennig am nifer o wahanol rhesymau, a dwi’n credu mai dyma sydd ar goll yn aml efo straeon plant bach sydd yn ymdrin efo cyfraniadau pobl Ddu. Caiff lot fawr ei gyfathrebu trwy lens o ormes, fel petai dyna’r unig beth sydd werth ei nodi mewn bywydau nifer o bobl. Ar ôl trafod efo fy nghydweithwyr, meddyliais, beth am wneud y gwrthwyneb? Yn hytrach, cawn ddathlu’r straeon rydym wedi dewis, a sôn am heriau neu bynciau anodd fel rhan o’r stori.
Dwi’n credu fel mudiad ei bod hi’n bwysig i ni edrych i lenwi bylchau os oes rhai i gael, a thrwy hynny greu adnoddau all rhoi’r hyder i bobl eraill fynd ati i ddatblygu syniadau eu hunain am sut i gynllunio cwricwlwm neu sesiynau buddiol i blant iau. ’Does gennym ddim rhestr hir o bethau i’w cynnwys neu reolau llym o sut i fynd ati i greu fersiynau terfynol o’r adnoddau, yn hytrach credwn ei bod hi’n bwysig sicrhau bod y neges yn cyrraedd plant bach yn weddol o gyflym ac mewn ffordd sydd yn rhydd o unrhyw bwysau llethol. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i weld y prosiect yn un uchelgeisiol, ond ar yr un pryd, teimlaf weithiau mae gymaint mwy o bwysau wrth ddatblygu prosiect am bobl Du os wyt ti dy hun yn berson Du.
Dwi wastad yn teimlo’r pwysau o drafod hanes pobl Ddu mewn ffordd sy’n berffaith neu mewn ffordd sydd yn derfynol, yn hytrach na gweld y broses fel cam yn ein trafodaeth i gyfoethogi’r naratif sydd ar gael. Hynny yw, mae’n iawn newid pethau neu adeiladu ar beth sydd gennych yn barod a gwella hynny y tro nesaf. Does dim byd yn bod efo arbrofi i raddau, datblygu pethau, a chreu rhywbeth newydd ymhen mis neu ddau. Dyna fydd ein bwriad wrth i ni gyflwyno’r adnoddau mewn patrwm “un ar y tro”. Yn hytrach na lawnsio pob dim ar yr un pryd, credwn ei bod yn beth dda i fagu momentwm a diddordeb ymysg rheini sydd mynd i ddefnyddio’n hadnoddau.
Mae’n gallu dod â theimlad enfawr o gyfrifoldeb, ond hoffwn weld prosiect, a’n gwaith ehangach o fewn y Mudiad fel rhywbeth sy’n gallu tyfu, esblygu, amsugno syniadau gwahanol, a newid wrth i ni symud trwy’r blynyddoedd. Mae bywydau Du o bwys, mae bywydau plant Du o bwys, ac un peth gallwn wneud fel Mudiad yw trafod y straeon hyn mewn ffordd sy’n ymbweru nhw i feddwl ei bod nhw’n werthfawr ac yn arbennig, mewn ffordd sy’n newid y naratif negyddol mae cymaint yn ei brofi ar hyn o bryd.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r adnodd cyntaf i’w ryddhau ar ein gwefan fel rhan o’r pecyn adnoddau digidol Cymru Ni.