Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw diwygiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr pan fydd plant 3 a 4 oed yn treulio eu haddysg feithrin naill ai mewn ysgol neu leoliad gofal plant a ariennir gan yr awdurdod lleol. (Cylchoedd Meithrin neu Meithrinfeydd Dydd sy’n derbyn arian i ddarparu addysg ac sy’n cael eu harolygu gan Estyn.)
Mae hwn yn gam pwysig ym mywydau plant cyn iddynt ddechrau mewn addysg statudol sy’n eu galluogi i ddysgu trwy chwarae dan do ac yn yr awyr agored ac yn gosod y blociau adeiladu ar gyfer eu dysgu yn y dyfodol a’u datblygiad corfforol ac emosiynol.
Mae croeso i chi rannu hyn gyda’ch rhieni ar eich hysbysfyrddau, apiau neu gyfryngau cymdeithasol.
Pecyn cymorth i gefnogi rhieni/gofalwyr :-
- wrth ymgysylltu â rhieni a gofalwyr i rannu gwybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru
- bodloni’r gofyniad i gyhoeddi crynodeb o’u cwricwlwm mabwysiedig.
Fel rhan o Gwricwlwm i Gymru, mae’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn sicrhau profiadau dysgu priodol i’n dysgwyr ieuengaf sy’n derbyn eu darpariaeth addysg mewn lleoliadau gofal plant.
Er mwyn cefnogi lleoliadau i ymgysylltu gyda rhieni a gofalwyr ar Gwricwlwm i Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn cymorth. Bydd y pecyn cymorth yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall newidiadau’r cwricwlwm a phrofiadau dysgu newydd a chyffrous eu plant.
Mae’r pecyn cymorth yn darparu amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys poster, templed cylchlythyr a negeseuon allweddol i’w hyrwyddo trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol. Poster. Mae’n gyfnod cyffrou i blant ifanc Cymru! (gov.wales)
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar y gofyniad i leoliadau gyhoeddi crynodeb o’u cwricwlwm mabwysiedig. (gweler tudalen 15)
Ysgrifennodd Annalisa Rabotti, addysgwr yn Reggio Emilia: –
‘Mae plant yn tasgu gwreichion o wybodaeth, chwilfrydedd ac ymholiad, ac mae’n rhaid i oedolion fod yn barod i ddal y gwreichion hynny… Fel athro, mae’n rhaid i chi fod yn barod i’w dal nhw, i chwythu arnyn nhw a’u hannog i gynnau ac i dyfu.’
Mae’r dyfyniad hwn yn crynhoi pwysigrwydd rôl yr oedolyn. Mae yna nifer o bethau i’w hystyried wrth ddarparu profiadau i helpu’ch plant ar ddechrau’r daith addysgiadol. Yn gyntaf, rhaid gwybod eich ‘pam?’ – holwch eich hun, beth yw diben darparu’r profiad hwn, a sut fydd y plentyn/plant yn elwa? Bydd hyn yn ei lenwi â phwrpas. Yn ail, a ydych chi’n dilyn diddordeb y plentyn/plant? Mae plant yn dysgu orau pan maen nhw â diddordeb ac yn brysur. Mae defnyddio diddordebau’r plant yn sail i’r profiad yn fodd o sicrhau bod y dysgu o ddiddordeb iddyn nhw, ond hefyd â phwrpas a pherthnasedd.
Mae plant ifanc am ddysgu sut mae pethau’n gweithio, ac maen nhw’n dysgu orau drwy chwarae. Fel rhiant/gofalwr neu aelod o staff Cylch Meithrin/Meithrinfa Dydd, mae chwarae gyda’r plant yn fuddiol i’w datblygiad. Wrth chwarae mae plant yn meddwl, yn dysgu, yn datrys problemau ac yn creu. Efallai eu bod nhw hefyd yn rhedeg, yn dringo, codi, taflu, tynnu, gwthio a datblygu sgiliau motor manwl. Wrth wneud y gweithgareddau hyn mae plant yn datblygu’r sgiliau hunanofal fel gwisgo / tynnu amdanyn nhw, bwyta, defnyddio’r toiled ac felly’n datblygu eu hunaniaeth. (Am ragor o wybodaeth am chwarae a dysgu’n seiliedig ar chwarae, gwelwch Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – Mudiad Meithrin
Trwy ddarparu gwahoddiadau i ddysgu/chwarae, rydym yn cyfleu negeseuon synhwyrol i’r plant y dylen nhw ddod yma i chwarae (gwyliwch am ein hesboniad ar wahoddiadau i chwarae/dysgu yn dod yn fuan.) Gallwch wneud hyn gartref neu yn y lleoliad, y tu mewn a’r tu allan. Sut wnawn ni hyn? Fel rhiant/gofalwr y plant neu aelod o staff, gallwn arddangos ystod o ddeunyddiau a darnau rhydd a dewiswyd yn ofalus yn seiliedig ar ddiddordebau’r plant, er mwyn ennyn eu chwilfrydedd a’u sylw. Bydd hynny yn eu denu i fyd o ryfeddodau ac yn datblygu eu dysg ar draws y pum llwybr datblygiadol – cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol, perthyn a lles.
Creda Mudiad Meithrin yng ngwerth llyfrau a meithrin cariad plant at lyfrau. O oedran ifanc iawn, mae angen i blant gael y profiad o drin llyfrau, gwrando ar straeon, a gweld harddwch y broses darllen ar waith. Y cwbl sydd eu hangen arnoch i wneud hyn ydi detholiad o lyfrau, darnau rhydd a doliau peg/anifeiliaid, ac ati. Gall plant fynd i fyd lle nad oes terfyn ar eu dychymyg. Mae angen i lyfrau bod ar gael ym mhob rhan o’r ddarpariaeth, nid y gornel lyfrau’n unig. Dylid gosod llyfrau dethol o fewn cyrraedd y plant wrth greu gwahoddiadau i chwarae/dysgu. Ystyriwch ddefnyddio silff ffenestr isel, silffoedd, cabinet arddangos a tuff trays i arddangos y llyfrau, darnau rhydd a doliau peg. Man cychwyn yw’r llyfr, a gellir defnyddio’r adnoddau i actio’r stori, gan ddilyn trywydd meddyliau, dychymyg a chreadigrwydd y plant. (Am ragor o wybodaeth, gwelwch hyfforddiant Amser Stori Mudiad Meithrin.)
Dylid cynnig cymaint o gyfleoedd â phosib i blant gael chwarae yn yr awyr agored. Mae chwarae tu allan yn dod â chymaint o fuddion, ac yn fwy nag erioed mae angen i ni gydnabod pwysigrwydd ei effaith ar ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd cynnar. Mae bod y tu allan yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol plant. Mae problemau iechyd meddwl yn cynyddu ymhlith plant ifanc, felly mae’n bwysig i ni fynd i’r afael â hyn drwy sicrhau ein bod yn gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn addysg plant. Mae plant yn dysgu orau pan eu bod yn hapus ac yn rhydd o straen a gorbryder. Mae’r ymarfer corff sy’n digwydd tu allan yn helpu mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant ifanc. Mae bod y tu allan yn cynnig cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau motor bras a manwl. Mae treulio amser wedi eu hamgylchynu gan natur yn rhoi cyfle i blant ddianc rhag disgwyliadau bywyd beunyddiol. Nid yw pob plentyn yn medru cydymffurfio â’r cyfyngiadau sy’n dod o fod y tu mewn, felly mae bod y tu allan yn gyfle iddyn nhw gael gwared â gormodedd o egni, ac felly cael gwared ar ymddygiadau sydd o bosib yn heriol. Beth bynnag rydych yn ei ddarparu i’r plant dan do, mi allwch chi ei ail-greu ar raddfa fwy, fwy swnllyd tu allan!
Am ragor o wybodaeth ar lesiant a dysgu tu allan, cliciwch ar y dolenni isod:
meithrin.cymru/wp-content/uploads/2023/07/Astudiaeth_Achos_Bro_Alun_S.pdf
Baby Steps into the Curriculum – Meithrin
Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel – Outdoor Learning – YouTube
Ysgol Feithrin Pontypwl Case study (meithrin.cymru)
Manteision Chwarae Natur
Os ydych am ddarparu profiadau diddorol, perthnasol yn seiliedig ar ddiddordebau’ch plentyn/plant, ond ddim yn siŵr sut i ddechrau arni, defnyddiwch y canlynol fel canllaw:
- Arsylwch sut maen nhw’n chwarae
- Nodwch hynny ar bapur
- Gwrandewch a siaradwch gyda nhw
- Byddwch yn agored i’w syniadau nhw
- Rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw
Wrth wneud hyn byddwch yn darparu profiadau cadarnhaol, go iawn, yn seiliedig ar eu diddordebau. Mae gan rieni, gofalwyr ac ymarferwyr rôl allweddol i’w chwarae yma.
Rydym wedi darparu rhai syniadau ar brofiadau sy’n ennyn diddordeb sydd hefyd yn cyd-fynd â’n hadnodd cynllunio wedi’i seilio ar ein calendr digwyddiadau. Rydym yn dilyn y tymhorau a natur. Gellir defnyddio’r syniadau hynny ar eu pen eu hunain, neu gyda’r adnodd cynllunio.
Ar fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Judith Grigg BEd (Hons) MAEd, Prif Swyddog Dysgu Sylfaen.
Gwneud Mathemateg yn Bwrpasol ac Ystyrlon
Dyma rhan gyntaf o adnodd newydd sy’n archwilio cysyniadau mathemategol ac yn trafod sut i gyflwyno’r cysyniadau hyn i blant bach. Bydd ail ran yr adnodd yn archwilio’r cysyniadau hyn yn fanylach ac yn rhannu arfer da o leoliadau Mudiad Meithrin. Cliciwch ar y poster am fwy o gwybodaeth.
Cyflwyniad i ddulliau addysgeg
Efallai eich bod wedi clywed y term ‘addysgeg’ sawl gwaith. Cyfeirir ato sawl gwaith yn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Diffinnir y term addysgeg yn y cwricwlwm fel:
‘Y dull neu’r arfer o addysgu’
Pan fyddwn yn siarad am addysgeg yn y blynyddoedd cynnar, rydym yn golygu ‘sut’ yr ydym yn dysgu, neu’r holl bethau sy’n galluogi oedolion i feithrin dysgu a datblygiad plant. Mae hyn yn cynnwys:
- Oedolyn sy’n galluogi – mae perthynas gynnes, ymddiriedus gydag oedolion gwybodus yn cefnogi dysgu plant yn fwy effeithiol nag unrhyw faint o adnoddau. Gall ymarferydd gwybodus benderfynu pryd i sefyll yn ôl, pryd i ryngweithio, a beth i’w gynnig i’r plentyn.
- Amgylchedd effeithiol – mae’r amgylchedd rydyn ni’n ei greu yn ein lleoliad, tu fewn a thu allan, yn ganolog i brofiadau dilys plant. Dylem fonitro ac adolygu effeithiolrwydd yr amgylchedd yn barhaus ac addasu yn unol â hynny. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae archwilio’r amgylchedd yn sbardun allweddol ar gyfer datblygu. Trwy archwilio eu hamgylchedd, mae plant yn dechrau datblygu ymdeimlad o berthyn a gwerthfawrogiad o’r byd o’u cwmpas.
- Profiadau sy’n ennyn diddordeb – dylai’r profiadau a gynigiwn yn y blynyddoedd cynnar fod yn ymarferol, yn bwrpasol ac yn ystyrlon i’r plentyn. Dylent annog annibyniaeth plant, cynnig risg, her a chyfleoedd i brofi llwyddiant ar hyd y daith ddysgu. Dylent gael eu gwreiddio mewn cyd-destunau go iawn, dilys, er mwyn ennyn diddordeb plant mewn lefelau dwfn o gyfranogiad a chyfnodau hir o ddysgu gweithredol, di-dor.
Mae egwyddorion addysgeg effeithiol wedi’u hymgorffori drwy’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir. Mae angen i ni sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn darparu cyfleoedd cyson i brofi’r canlynol:
- chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – mae chwarae’n hawl sylfaenol i bob plentyn. Mae ganddyn nhw angen cynhenid cryf i chwarae. Trwy chwarae a phrofiadau chwareus, mae plant yn dod o hyd i ffyrdd o archwilio amrywiaeth o emosiynau a dysgu am y byd y maent yn byw ynddo.
- bod y tu allan – mae bod yn y tu allan yn arbennig o bwysig i blant ifanc. Mae’n cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol, yn ogystal â lles.
- dysgu dilys a phwrpasol – bydd profiadau perthnasol ac ystyrlon sydd wedi’u gwreiddio mewn cyd-destunau bywyd go iawn yn galluogi plant i wneud cysylltiadau, cymhwyso gwybodaeth a sgiliau cydgrynhoi. Gall profiadau bywyd go iawn alluogi plant i arwain wrth ofyn cwestiynau, nodi problemau, mentro a dod o hyd i atebion.
- llythrennedd corfforol – mae’n hanfodol ein bod yn gosod sylfeini llythrennedd corfforol yn y blynyddoedd cynnar trwy fodelu agweddau cadarnhaol tuag at symud a darparu amgylchedd sy’n rhoi cyfle i blant archwilio, ymarfer a chyfuno ystod eang o symudiadau corfforol mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Mae llawer o ddamcaniaethwyr blynyddoedd cynnar wedi datblygu gwahanol addysgeg – efallai y bydd eich Cylch Meithrin/meithrinfa ddydd yn penderfynu mabwysiadu addysgeg benodol. Mae bob amser yn werth ymchwilio a darllen am yr addysgeg y mae gennych ddiddordeb ynddo gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ei ddewis i fod o fudd uniongyrchol i’r plant rydych yn gofalu amdanynt. Gallwch ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau addysgeg canlynol o fewn y cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir a’i addasu at eich lleoliad eich hun.
** Nid yw’r Mudiad Meithrin yn cymeradwyo unrhyw ddulliau addysgeg penodol. Rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau at ddibenion gwybodaeth yn unig.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Judith Grigg BEd (Anrh) MAEd, Swyddog Arweiniol Dysgu Sylfaen.
Mae miri mawr blêr yn rhan bwysig o ddatblygiad plant. Mae’n cefnogi plant i roi cynnig ar archwilio ymarferol a phrofiadau synhwyraidd, ac yn datblygu eu creadigrwydd a dychymyg. Mae’r adnodd hwn yn cefnogi rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr i ddeall pam mae miri mawr mor bwysig.
Cliciwch isod i weld y carden post ar poster Miri Mawr;
Yn y byd hwn sy’n cael ei yrru gan dechnoleg mae’n hawdd anghofio buddion natur. Mae’r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau ar ba brofiadau y gallwch eu darparu er mwyn dod â byd natur i fywydau eich plentyn/plant; gan ganolbwyntio ar y manteision o wneud felly, a sut i ddarparu profiadau ym myd natur hyd yn oed os ydych wedi’ch lleoli mewn ardal adeiledig.
Cliciwch isod i weld y poster ar Manteision Chwarae Natur.
Mae amser stori yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd plant. Mae’n cefnogi datblygiad iaith, sgiliau llythrennedd a chyfathrebu plant. Mae’r adnodd hwn yn rhoi awgrymiadau gwych ar sut i gynnwys plant ifanc yn rhan o Amser Stori, a sut i’w wneud yn gyffrous ac yn llawn hwyl.
Cliciwch isod i weld y poster ar Amser Stori.