Cath fach ddireidus, bwni ciwt, cyw blewog neu gi cyfeillgar, ni allwch fethu â cholli'r hyfrydwch yn wyneb plentyn bach pan fyddant yn rhyngweithio ag anifeiliaid.
Fodd bynnag, mae llawer mwy i ryngweithiadau plant ac anifeiliaid nag sy’n cwrdd â’r llygad. Mae angen i blant ifanc gael y cyfleoedd i dreulio amser gydag anifeiliaid ac mae’n gwneud llawer mwy nag ysgogi eu synhwyrau.
Mae plant wrth eu boddau’n cofleidio anifeiliaid blewog ac yn profi sut maen nhw’n edrych, bwyta, symud, swnio a theimlo, ond mae cymaint mwy o fanteision i ryngweithio gydag anifeiliaid. Mae ymchwil wedi dangos y gall rhyngweithio anifeiliaid wella rhyngweithio cymdeithasol plant, cynyddu cymhelliant a dysgu, a lleihau straen a phryder. Mae dysgu am empathi, perthnasoedd, yr amgylchedd a natur yn rhai o’r manteision y mae plant yn eu derbyn trwy ofalu am anifeiliaid. Mae cael anifail anwes mewn Cylch Meithrin yn rhoi cyfle i blant arsylwi, rhyngweithio a dysgu am anifeiliaid a gall fod yn rhan werthfawr o’u profiad addysg a gofal, gan gyfoethogi eu dysgu am natur, ecoleg a pherthnasoedd. Mae’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir yn cydnabod bod pob plentyn yn ein lleoliad yn unigryw ac mae cadw anghenion datblygiadol ein plant ar y blaen yn cefnogi eu datblygiad holistaidd o ran ymarfer addysgeg. Ein rôl fel oedolion sy’n galluogi yw defnyddio ein harsylwadau i gynllunio profiadau ac amgylcheddau sy’n ystyrlon ac yn berthnasol i fuddiannau plant. Mae rhyngweithio ag anifeiliaid yn ffordd berffaith o gyflawni hyn gan fod gan lawer o blant chwilfrydedd naturiol am bethau byw.
Ni fydd pob Cylch Meithrin mewn sefyllfa i gadw anifail anwes, fodd bynnag, mae’n bosibl i gylchoedd drefnu rhyngweithio ag anifeiliaid a bod anifeiliaid yn ymweld â’r Cylch i ddarparu cyfleoedd i blant gael cyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid a datblygu cysylltiad gyda nhw. Mae llawer o bethau i’w hystyried wrth gyflwyno anifeiliaid i’r lleoliad megis diogelwch staff, y plant, myfyrwyr ar brofiad gwaith, ymwelwyr a gwirfoddolwyr; diogelwch a lles yr anifeiliaid neu greaduriaid byw eraill; fforddiadwyedd, alergeddau, ac ati.
Mae gan aelodau staff sy’n gyfrifol am anifail neu greadur byw arall yn y Cylch Meithrin rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod anghenion lles yr anifail neu’r creadur byw yn cael eu diwallu, fel y nodir yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006:
- Deiet addas, gan gynnwys mynediad at ddŵr ffres bob amser
- Llety digonol
- Cwmnïaeth addas, yn ôl anghenion yr anifail penodol neu’r creadur byw hwnnw
- Lle a chyfle i arddangos ymddygiad naturiol
- Cael eu hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf a salwch
Mae AGC ei gwneud yn ofynnol i nodi’n glir gwybodaeth am unrhyw anifail sy’n cael ei gadw mewn lleoliad (mae hyn hefyd yn cynnwys pysgodyn aur!) yn y Datganiad o Ddiben; neu os yw’r lleoliad yn bwriadu trefnu cyswllt ag anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill fel rhan o weithgareddau’r Cylch Meithrin.
Mae gan lawer o Gylchoedd Meithrin anifeiliaid anwes ac maent yn mwynhau eu manteision aruthrol. Gall anifeiliaid anwes fod yn geidwaid diogel o gyfrinachau a meddyliau preifat; maent yn darparu cysylltiad â natur ac yn gwella lles plant; maent yn addysgu parch at bethau byw ac yn darparu gwersi gwerthfawr am fywyd fel atgenhedlu, marwolaeth, profedigaeth, damweiniau, genedigaeth a salwch.
Edrychwch ar ein hastudiaethau achos ar ‘ryngweithio anifeiliaid’ a straeon yr anifeiliaid anwes y mae rhai lleoliadau’n eu cadw neu’r rhyngweithiadau anifeiliaid y maent yn eu darparu.
(gweler Polisi Anifeiliaid yn y lleoliad ar ein mewnrwyd am ragor o wybodaeth)