Cefnogaeth Mudiad Meithrin
- Mae’n haelodau yn cael cyfle i ymgeisio am grant Mudiad Meithrin bob blwyddyn.
- Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am nawdd a chynlluniau grant newydd ar ein cyfrifon cymdeithasol. Bydd y wybodaeth am gronfeydd penodol yn cynnwys at beth y dylid anelu ceisiadau, sut mae gwneud cais, a dyddiadau cau.
Grantiau Eraill
Yn ychwanegol i’r grantiau Addysg, Dechrau’n Deg ayyb mae modd gwneud ceisiadau am grantiau eraill. Bydd eich Cydlynydd Cefnogi yn gallu cefnogi’r broses ymgeisio.
- Rhaid cofio bod y mwyafrif o’r grantiau ar gael ar gyfer adnoddau, offer neu brosiectau penodol ac nid ar gyfer talu cyflogau a rhent.
- Mae cynghorau tref a chymuned, a busnesau lleol hefyd yn darparu grantiau i elusennau lleol, neu yn gallu cefnogi Cylchoedd Meithrin drwy noddi eich digwyddiadau e.e. gwobr raffl.
- Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gweithredu ymhob sir ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth am gynlluniau cyllido lleol, a chynghori ar sut i lunio ceisiadau. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt, cliciwch yma.
- ‘Mae’r fideo ar waelod y dudalen yn cynnig 5 ‘top tips’ wrth geisio am grant’.
Grantiau Addas i Gylchoedd:
Arian i Bawb – Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. Gellir ymgeisio drwy gydol y flwyddyn a mae posib defnyddio’r arian grant tuag at gostau rhedeg y Cylch (cyflogau/rhent). Ewch i’w gwefan am wybodaeth bellach am sut i gynnwys eich cymuned yn nyluniad a chyflwyniad eich prosiect.
Cronfa Glyndwr – Cymorth i brynu offer / adnoddau newydd neu i baratoi adnoddau marchnata yn benodol ar gyfer hyrwyddo Addysg Gymraeg.
Asda – Cymorth ar gael i wneud gwaith adnewyddu ar adeiladau a prynu offer. Ewch i’ch siop leol i drafod yr opsiynau.
Tesco – Cymorth ar gael adnewyddu adeiladau cymunedol, datblygu ardaloedd tu allan, prynu adnoddau newydd neu cynnal digwyddiadau cymunedol.
Co-op – Mae pob siop lleol yn cefnogi 3 elusen y flwyddyn a mae cyfraniadau o werth y siopa yn cael ei rannu rhwng 3 elusen. Byddwn yn rhoi gwybod am y cyfnod ymgeisio ar ein cyfrifon cymdeithasol
Dyma E’zzati Griffin, ein Swyddog Grantiau yn rhannu 5 ‘top tip’ ar gyfer unrhyw un sy’n ymgeisio am grant!