Cefnogaeth Mudiad Meithrin

  • Mae’n haelodau yn cael cyfle i ymgeisio am grant Mudiad Meithrin bob blwyddyn.
  • Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am nawdd a chynlluniau grant newydd ar ein cyfrifon cymdeithasol. Bydd y wybodaeth am gronfeydd penodol yn cynnwys at beth y dylid anelu ceisiadau, sut mae gwneud cais, a dyddiadau cau.

Grantiau Eraill

Yn ychwanegol i’r grantiau Addysg, Dechrau’n Deg ayyb mae modd gwneud ceisiadau am grantiau eraill. Bydd eich Cydlynydd Cefnogi yn gallu cefnogi’r broses ymgeisio.

  • Rhaid cofio bod y mwyafrif o’r grantiau ar gael ar gyfer adnoddau, offer neu brosiectau penodol ac nid ar gyfer talu cyflogau a rhent.
  • Mae cynghorau tref a chymuned, a busnesau lleol hefyd yn darparu grantiau i elusennau lleol, neu yn gallu cefnogi Cylchoedd Meithrin drwy noddi eich digwyddiadau e.e. gwobr raffl.
  • Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn gweithredu ymhob sir ac maent yn gallu rhoi gwybodaeth am gynlluniau cyllido lleol, a chynghori ar sut i lunio ceisiadau. Am fwy o wybodaeth a manylion cyswllt, cliciwch yma.
  • ‘Mae’r fideo ar waelod y dudalen yn cynnig 5 ‘top tips’ wrth geisio am grant’.

Grantiau Addas i Gylchoedd:

Arian i Bawb  – Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. Gellir ymgeisio drwy gydol y flwyddyn a mae posib defnyddio’r arian grant tuag at gostau rhedeg y Cylch (cyflogau/rhent). Ewch i’w gwefan am wybodaeth bellach am sut i gynnwys eich cymuned yn nyluniad a chyflwyniad eich prosiect.

Cronfa Glyndwr – Cymorth i brynu offer / adnoddau newydd neu i baratoi adnoddau marchnata yn benodol ar gyfer hyrwyddo Addysg Gymraeg.

Asda – Cymorth ar gael i wneud gwaith adnewyddu ar adeiladau a prynu offer. Ewch i’ch siop leol i drafod yr opsiynau.

Tesco – Cymorth ar gael adnewyddu adeiladau cymunedol, datblygu ardaloedd tu allan, prynu adnoddau newydd neu cynnal digwyddiadau cymunedol.

Co-op – Mae pob siop lleol yn cefnogi 3 elusen y flwyddyn a mae cyfraniadau o werth y siopa yn cael ei rannu rhwng 3 elusen. Byddwn yn rhoi gwybod am y cyfnod ymgeisio ar ein cyfrifon cymdeithasol

Dyma E’zzati Griffin, ein Swyddog Grantiau yn rhannu 5 ‘top tip’ ar gyfer unrhyw un sy’n ymgeisio am grant!

Haf 2024

Lawrlwytho

Gaeaf 2023

Lawrlwytho

Haf 2023

Lawrlwytho

Gaeaf 2022

Lawrlwytho

Hydref 2022

Lawrlwytho

Haf 2022

Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho
Lawrlwytho