Mae nifer cynyddol o bobl yn dewis gadael rhodd ariannol i elusennau yn eu hewyllys.
Os taw eich dymuniad chi yw gadael rhodd i ni, bydd ei werth yn cael ei dynnu o’ch ystâd (eich arian, eiddo ac adeiladau) cyn i’r Dreth Etifeddiaeth gael ei chyfrifo.
Sut fath o rodd ydwi’n gallu ei adael mewn ewyllys?
Gallwch naill ai adael
1. Swm penodol o arian
2. Rhan o’ch ystâd/ystâd gyfan unwaith mae’r rhoddion eraill wedi eu dosbarthu
3. Gadael eitem benodol e.e. gemwaith neu waith Celf
Gallwch wneud hyn drwy eich ewyllys, neu drwy ddatganiad i’r ysgutorion neu gynrychiolwyr personol gan nodi cyfarwyddiadau ynghylch sut yr hoffech i’ch etifeddiaeth gael ei dosbarthu. Os ydych yn gadael arian i ni, nodwch yn glir y manylion isod
Enw Llawn – Mudiad Meithrin
Prif Swyddfa – Y Ganolfan Integredig, Boulevard de Saint Brieuc, Aberystwyth, SY23 1PD
Rhif Elusen – 1022320
Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim ynghylch gwneud ewyllys gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth ac Age UK.
Rydym yn gwerthfawrogi bod gwneud penderfynu am rhoi rhodd mewn ewyllys yn benderfyniad pwysig iawn ac felly os hoffech drafod gadael rhodd i ni yn eich ewyllys yna cysylltwch â:
Nerys Fychan, 01970 639639 neu drwy ebost.