Lleoliad: Ysgol Pen y Garth, Redlands Road, Penarth, CF64 2QN
Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y Cylch.
Dylech fod yn ymroddedig i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y Cylch. Gallwch fod yn rhugl yn y Gymraeg, yn siaradwr newydd, yn ddysgwr neu yn barod i ddysgu fel rhan o’r swydd.
I weithio yng Nghylch Meithrin Pen-y-Garth, dylech fod yn meddu ar gymhwyster Lefel 3 addas, neu yn fodlon gweithio tuag at ennill un fel rhan o’r swydd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan rai sydd am weithio 5 diwrnod yr wythnos,,yn rhan-amser/neu sydd am rannu swydd.
Mae hwn yn broses dau gam. Bydd ymgeisiwyr sy'n llwyddiannus yn eu cyfweliad yn cael eu gwahodd i'r Cylch i arwain sesiwn fer gyda'r plant.
Cyflog: £13.50 yr awr
Oriau: Hyd at 5 diwrnod yr wythnos, (8.45-1.15)
Lefel 3 Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant
Person cyswllt am fanylion pellach:
Nia Allan, nia.allan@meithrin.cymru / 07484 990457
Dyddiad Cau: 09/10/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 9.00-13.00 | |
| Dydd Mawrth | 9.00-13.00 | |
| Dydd Mercher | 9.00-13.00 | |
| Dydd Iau | 9.00-13.00 | |
| Dydd Gwener | 9.00-13.00 |