Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol

Lleoliad - Y CABAN , YSGOL GYNRADD CEFN COCH , STRYD YR YSGOL , PENRHYNDEUDRAETH, LL48 6LS

Mae’r Cylch Meithrin yn chwilio am gynorthwyydd dibynadwy ac egnïol i gweithio yn y Cylch a’r clwb ar ol Ysgol, sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm i ymuno â staff y cylch.

Rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg neu yn ddysgwr sydd wedi cyrraedd lefel uchel yn y Gymraeg.

Manylion y Swydd

Cyflog: £12.71 yr awr

Oriau: 30.5 awr yr wythnos. Dydd Llun a Mercher, 8.30 - 13.00, Mawrth a Iau, 8.30 - 18.00, Dydd Gwener, 8.30 - 11.00.

Manylion cymwysterau

Gofynnir am brofiad a chymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig ar o leiaf Lefel 3 i ofalu am blant. Cymwyster L3 yn dymunol ond L2 yn derbyniol. Barod i weithio tuag at gymhwyster Lefel 3 mewn gwaith chwarae.

Gwybodaeth Ychwanegol

Person cyswllt am ragor o wybodaeth a manylion cysylltu – Caryl Lewis – cylchmeithrinpenrhyn@hotmail.co.uk – 07745276052

Posibilrwydd o oriau ychwanegol i ymdrin a salwch/absenoldeb.

Dim cymhwyster? Mae gyda ni gyrsiau Gofal Plant sy’n addas i ti, clicia yma am fwy o wybodaeth.

Dyddiadau Pwysig

Dyddiad Cau: 07/10/2026