Lleoliad: Y CABAN , YSGOL Y GORLAN , STRYD DUBLIN , TREMADOG (gyda bosib o weithio oriau hyblyg o adref)
Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Arweinydd a’r Pwyllgor y cylch am gyflawni’r dyletswyddau canlynol. (Gweler y swydd ddisgrifiad)
Gwaith Gweinyddol
● Cyfrannu at y gwaith o gael trefniadaeth fewnol dda er mwyn creu argraff ffafriol a chadarnhaol o waith y Cylch Meithrin (yn fewnol ac y allanol)
● Helpu a chyfrannu at gadw systemau a threfniadau gweinyddol, a busnes y Cylch Meithrin yn gyfredol, safonol a chywir
● Unrhyw waith gweinyddol gan gynnwys llythyrau, e-bostio, cofnodion cyfarfodydd, diweddaru gwaith papur Arolygiaeth Gofal Cymru
● Paratoi ffurflenni cofrestru a ffurflenni perthnasol eraill i rieni newydd, sicrhau bod pob un yn cael ei ddychwelyd a ffeilio ar ôl ei derbyn
● Gwirio polisïau’r cylch yn dilyn arweiniad gan Mudiad Meithrin.
Mae swydd Cynorthwyydd ar gael yn y Cylch hefyd, 21.5 awr. Bydden yn cysidro cyfuno'r ddau swydd i'r person addas.
Cyflog: I'w drafod yn ddibynol ar brofiad
Oriau: 12.5 awr yr wythnos
Cymhwyster ar Lefel O/TGAU / NVQ Lefel 2 neu uwch, neu aelod o gorff proffesiynol perthnasol neu gyfatebol
I wneud Cais, cwblhewch ffurflen Gais (atodol) a’i ddychwelyd i pwyllgor.ygorlanfach@gmail.com
Dyddiad Cau: 06/11/2026
| Diwrnod | Bore | Prynhawn |
| Dydd Llun | 8.30-15.30 | |
| Dydd Mawrth | 8.30-15.30 | |
| Dydd Mercher | 8.30-15.30 | |
| Dydd Iau | 8.30-15.30 | |
| Dydd Gwener | 8.30-15.30 |