Sut gall rhieni sicrhau eu bod yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w babi? Mae llawer yn blaenoriaethu materion ariannol, ond pa ddefnydd yw cyfoeth heb iechyd meddwl sefydlog, y gallu i greu a meithrin perthnasau hirdymor, gwytnwch a hyder i’n helpu goresgyn heriau bywyd?

Mae’r rhain mor bwysig â datblygiad iaith. Mae’n hanfodol y gall plant fynegi eu hunain, cyfathrebu a rhyngweithio gydag eraill yn ogystal â dysgu a datblygu eu hunain a’u perthnasau gydag eraill a’r byd o’u cwmpas.

Mae grwpiau Tylino Babi a Ioga Babi, sy’n cael eu darparu gan Cymraeg i Blant am ddim ac yn cynnig y gefnogaeth ddelfrydol i deuluoedd newydd er mwyn dechrau babanod ar y trywydd cywir.

 

Mae Cymraeg i Blant yn un o gynlluniau Mudiad Meithrin – y prif ddarparwr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg sy’n cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o greu  ‘miliwn o siaradwyr Cymraeg’ erbyn 2050.  Rydym yn angerddol dros roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu trwy’r Gymraeg.

Mae llawer o dystiolaeth bod ymdeimlad o berthyn yn hanfodol bwysig i iechyd meddwl plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu. Sicrheir y gallu i gymryd rhan yn llawn mewn digwyddiadau lleol, cymdeithasol, chwaraeon a diwylliannol yn ogystal â bywyd ysgol pan fo plant yn gallu sgwrsio, gwneud ffrindiau a chael hwyl trwy’r cyfrwng y Gymraeg. Sut well i ddechrau’r broses trwy fwynhau caneuon syml mewn grwpiau babi hamddenol a hwyliog?

Yn ystod cwrs Tylino Babi 5 wythnos, gall rhieni a babanod ddisgwyl cryfhau’r broses ‘bondio 1-1’ holl bwysig. Mae’r Swyddogion Cymraeg i Blant yn annog cyswllt llygaid cyson wrth dangos symudiadau tylino a chanu caneuon Cymraeg syml sy’n tawelu’r babi ac yn cyflwyno patrymau iaith. Mae tylino yn rhyddhau ocsitosin sy’n ymlacio’r rhiant a’r babi ymhellach ac yn cryfhau’r ymlyniad cynnar.

Anogir teuluoedd i drosglwyddo o dylino i ioga babi er mwyn atgyfnerthu’r broses o fondio yn ogystal â chreu’r cyfle i ddysgu caneuon ac ymadroddion newydd i ddefnyddio gyda’r babi gartref.

Mae rhai o’r symudiadau yn ysgogi’r atblygiad ‘moro’ neu ‘braw’ efo cwtsh ac ymadroddion cariadus i ddilyn, sy’n helpu’r babi ddysgu am gryfder emosiynol a gwytnwch a magu hyder o’r ddechrau. ‘Mae pethau’n mynd o’u le, ond bydd yn iawn’.

Ysgogir datblygiad ymlacio efo symudiadau eraill a gall hynny, efo llais swynol y rhiant yn canu hwiangerddi, helpu’r babi ymlacio a chysylltu caneuon ac iaith efo teimladau cadarnhaol.

Wrth glustnodi amser yn ystod y sesiynau i’r teuluoedd gael ffocysu ar eu hunain rydym, mewn ffordd syml, yn cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar a sut i adeiladu perthnasau. Rydym yn rhoi ‘twlcit’ i’r babi a’r teulu i sicrhau iechyd meddwl cadarnhaol yn y dyfodol ac mae iaith a chân yn greiddiol i hyn.

Gall iselder ôl-enedigol, sy’n effeithio mamau a thadau, gael effeithiau parhaol ar y teulu cyfan. Mae adborth rheolaidd o holiaduron ac astudiaethau achos yn tystio bod ein sesiynau ni’n rhoi manteision eang i deuluoedd o ran iechyd meddwl yn ogystal â dysgu a datblygiad iaith. Maent yn rhoi cyfle holl bwysig i deuluoedd newydd wneud ffrindiau.

Am fwy o wybodaeth am wasanaethau Cymraeg i Blant ac esiamplau o astudiaethau achos ewch i:

www.llyw.cymru/CymraegiBlant

www.meithrin.cymru/cymraegiblant

Marion Mayhead

Prif Swyddog Cymraeg i Blant Gorllewin Cymru