Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Newyddion da i ffrindiau bach Dewin a Doti! Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o gyhoeddi mai Mia Morgan fydd yn serennu gyda Dewin a Doti fel rhan o Daith Gŵyl Dewin a Doti fydd yn teithio o gwmpas Cymru rhwng 6 Mehefin a 1 Gorffennaf 2025.

Ble mae Doti?’ yw teitl y sioe eleni sydd wedi ei ysgrifennu gan Anwen Carlisle, sy’n fam i Mia. Yn ystod y sioe bydd y cymeriad poblogaidd i blant Siani Sionc yn helpu Mia drwy gyswllt ‘Facetime’ i geisio dod o i hyd i Doti sydd ar goll. Mae’r sioe yn llawn o ganeuon hwyliog a digon o antur.

Actores sydd newydd raddio mewn BA Perfformio yw Mia ac mae hefyd wedi astudio MA mewn actio. Mae ganddi brofiad helaeth o berfformio, canu a dawnsio ers yn blentyn ac ar hyn o bryd mae’n dysgu drama i blant yn ABC Caerdydd ac ABC y Fro ac wrth ei bodd yn eu cwmni. Mae hi newydd orffen y cynhyrchiad ‘Y Naid/Jump” gyda Theatr Na nÓg ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â ffrindiau bach Dewin a Doti wrth grwydro Cymru yn perfformio’r sioe Ble mae Doti? ar draws Cymru.

Meddai Mia:

“Rwy’n yn edrych ymlaen yn fawr iawn at deithio Cymru yn chwilio am Doti wrth gyflwyno’r Sioe Ble mae Doti? ar Daith Gŵyl Dewin a Doti eleni!”

Bydd Siani Sionc yn rhan o’r sioe Ble mae Doti? hefyd, gan y bydd hi’n helpu Mia i chwilio am Doti mewn gwahanol lefydd yng Nghymru trwy gysylltiad ‘Facetime’ gyda Mia ar sgrin fawr.

Meddai Siani Sionc:

“Rwy’n gyffrous iawn i fod yn rhan o sioe Doti ar Goll eleni – er na fyddaf yn teithio gyda’r Daith byddaf yno ar y sgrin ym mhob sioe felly dwi’n edrych ymlaen i weld sut fydd y plant yn ymateb i’r sioe.”

Meddai Nerys Fychan, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Mudiad Meithrin:

“Mae Gŵyl Dewin a Doti yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau’r Cylchoedd Meithrin erbyn hyn ac mae’n ffordd wych o ddod â’r Gymraeg yn fyw, yn enwedig i deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad yn y cartref. Am y tro cyntaf erioed mae’r caneuon fydd yn rhan o’r sioe i’w clywed ar Spotify fel bydd y plant a’u teuluoedd yn gallu ymgyfarwyddo â’r caneuon ymlaen llaw a pharhau i’w mwynhau ar ôl ymweld â’r sioe. Ry’n ni’n falch iawn o allu mynd yn ôl ar daith ar hyd a lled Cymru.”

Bydd y sioe yn cael ei chynnal ledled Cymru gan ymweld ag Wrecsam, Dinbych, Caernarfon, Llangefni, Aberdyfi, Felinfach, Caerfyrddin, Merthyr Tudful, Y Barri, Llys y Fran a Phorthmadog, ac fe gynhelir y sioe gyntaf ar ehefin 6ed yng Nghanolfan Gymunedol Garth Olwg ym Mhentre’r Eglwys ger Pontypridd. Bydd disgwyl i filoedd o deuluoedd ymweld â’r sioe i fwynhau’r adloniant yn ystod y daith.