Yn ein cyfres podlediadau Saesneg #BabyStepsIntoWelsh mae Nia Parry wedi bod yn sgwrsio gyda theuluoedd am eu profiadau, gofidiau a chwestiynau am Addysg Gymraeg. Gallwch wrando a dilyn y gyfres yma: www.podfollow.com/babysteps

Un cwpwl sy’n ansicir am y trywydd gorau ar gyfer eu mab ifanc, yw’r Gwleidydd Bethan Sayed o Ferthyr a’i gwr Rahil sy’n gweithio yn y maes ffilmiau Bolywood ac yn hannu o Mumbai yn yr India. Bu Nia’n sgwrsio gyda’r ddau ac yn dysgu mwy am eu pryderon.

“Dwi’n teimlo’n angerddol iawn dros addysg Gymraeg. Idris yw’r flaenoriaeth ond fel Cymraes, dwi’n awyddus i sicrhau dyfodol yr iaith”  Bethan Sayed

Cafodd Bethan ei magu yn Merthyr Tudfil mewn teulu dwyieithog, ac mae’n falch iawn o’r profiadau gwych gafodd hi yn y Cylch Meithrin, Ysgol Santes Tudfil ac Ysgol Rhydfelen. Yn naturiol felly mae’n awyddus iawn i’w mab ifanc Idris i gael yr un profiad a’r cyfleoedd. Cafodd Rahil ei fagu yn Mumbai a chael addysg breifat Saesneg, mae’n frwdfrydig bod Idris yn siarad Cymraeg, Saesneg a Hindi ond mae’n ansicir a’i addysg Gymraeg yw’r trywydd gorau i’w fab.

 “Dwi’n gyfforddus bod Idris yn mynd i Ysgol Gymraeg, ond dwi’n pryderu na fyddai’n gallu ei helpu gyda’r pynciau hynny bydd Bethan ddim mor hyderus ynddynt”  Rahil Sayed.

Gwych oedd clywed sut mae Bethan a Rahil yn magu Idris yn aml ieithog a’i fod yn cael cyfle i siarad y dair iaith yn gyson, gydag aelodau’r teulu yng Nghymru ac yn yr India. Daeth yn amlwg yn ystod y sgwrs bod Rahil yn gefnogol i addysg Gymraeg, ond mae’n bryderus na fydd modd iddo helpu ei fab gan nad yw’n siarad Cymraeg mwyaf oedd ei anallu ef fel Tad i helpu ei fab gyda’r gwaith ysgol, gan nad yw’n gallu’r Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg wedi agor gymaint o ddrysau ychwanegol i fi yn fy ngyrfa a fy mywyd personol. Mae’r profiadau yma yn dechrau ym myd addysg, felly mae dweud na i addysg Gymraeg i Idris yn cau gymaint o ddrysau iddo yn fy marn i”. Bethan Sayed.

Er ei bod hi’n wleidydd, yn rhan o Plaid Cymru ac wedi bod yn ymgyrchu dros yr iaith, pwysleisiodd Bethan mai nid dyma oedd wrth wraidd ei hangerdd dros addysg Gymraeg. Fel unigolyn roedd cael cyfloedd fel bod yn rhan o’r Urdd a’r Eisteddfod pan yn blentyn yn brofiadau hollbwysig iddi. Soniodd na fyddai Idris yn cael yr un profiadau mewn ysgolion di Gymraeg a byddai hynny’n siom enfawr iddi fel Mam.

“Our duty as parents is to provide our children with the best tools to go out into the world and progress in real life, it’s not our duty to protect the language and culture. If we live in Wales knowing the language opens more career opportunities here at home.”  Rahil Sayed.

Roedd hi’n wych i glywed Rahil yn trafod ei bryderon a’i safbwyntiau yn onest gyda Nia. Daeth yn amlwg ei fod yn llwyr gefnogol o’r iaith ac addysg Gymraeg a’r ffaith ei fod yn agor drysau i gyfleoedd a gyrfaoedd yma yng Nghymru, ond ar yr un pryd mae’n amlwg ei fod yn parhau’n bryderus am addysg Gymraeg am nad ydy o’n siarad Cymraeg ei hun. Bydd y trafodaethau’n parhau rhwng Bethan a Rahil, ond gobeithio gwelwn Idris bach yn camu mewn i’r Cylch Meithrin yn y dyfodol agos.

Gallwch wrando ar y sgwrs yn llawn yma a chofiwch rannu gyda theuluoedd eraill sy’n ceisio penderfynu ar y llwybr cywir ar gyfer addysg eu plant ar hyn o bryd: www.podfollow.com/babysteps