Fel Mudiad sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i blant ifanc gwnawn bopeth yn ein gallu i ddarparu’r safon aur mewn profiadau blynyddoedd cynnar i’r plant yn ein gofal. Mae ein gwaith yn dylanwadu’n fawr ar blentyn am weddill ei fywyd ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif gan ddarparu profiadau dysgu a chwarae cyfoethog, effeithiol a llawn gwybodaeth iddyn nhw.

 

Fel mudiad cenedlaethol sy’n cael ei gydnabod fel ‘arbenigwyr y blynyddoedd cynnar’ yng Nghymru a thu hwnt, mae sicrhau gweithlu cymwys i weithio yn y blynyddoedd cynnar wedi bod yn un o flaenoriaethau strategol Mudiad Meithrin ers y dyddiau cynnar. Un o’r cynlluniau a sefydlwyd ugain mlynedd yn ôl oedd Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam ac eleni byddwn yn dathlu cyrraedd carreg filltir arbennig wrth i’r cynllun ddathlu ei ben-blwydd yn 20 oed. Ers ei sefydlu yn 2004 mae dros 4,000 o bobl wedi cymhwyso mewn cymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig gan gyfrannu at greu gweithlu cymwys i weithio yn y Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd ledled Cymru.

Er mwyn gwneud y cynllun, rhaid i fyfyrwyr fod yn gyflogedig mewn lleoliad addas e.e. Cylch Meithrin, meithrinfa ddydd neu ysgol gynradd Gymraeg. Bydd y myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu trwy gael profiad dydd i ddydd gyda phlant bach a thrwy gefnogaeth gan staff arbenigol y Mudiad.

Mae tîm profiadol, cefnogol a chyfeillgar o diwtoriaid ac aseswyr yn cefnogi dysgwyr a lleoliadau ar hyd y daith dysgu.

 

Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin:

“Mae cynllun Hyfforddi Cenedlaethol Cam wrth Gam yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau fod niferoedd digonol a chyson o bobl yn gweithio o fewn y sector gofal plant a blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Mae arbenigedd ein tîm yn golygu ein bod ni’n medru cynnig popeth sy’n ymwneud â’r cymhwyster hwn oddi mewn i Mudiad Meithrin. Ry’n ni’n creu adnoddau gwreiddiol i gefnogi’r dysgu, yn cynnal gweithdai ymarferol cyson, ac yn darparu cefnogaeth iaith i’r sawl sydd am loywi eu iaith – ac mae dysgwyr hefyd yn cael elwa o hyfforddiant Academi Mudiad Meithrin sy’n cyfrannu at eu datblygiad proffesiynol parhaus.”

“Mae ansawdd y ddarpariaeth yn uchel gyda’r Mudiad yn meddu ar statws hawlio uniongyrchol ar gyfer elfennau o’r cymwysterau – golyga hyn ein bod ni wedi derbyn adroddiadau gwirio ansawdd allanol rhagorol.”

 

Cynhelir Seremoni Wobrwyo Cam wrth Gam yn flynyddol i wobrwyo a dathlu llwyddiannau a gwaith caled myfyrwyr Cam wrth Gam yn eu lleoliadau wrth ddilyn a chwblhau eu cyrsiau Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant neu Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Dyma ddolen i fideo o rai o’r enillwyr yn y Seremoni ddiwethaf. Arweinyddion Ysbrydoledig Lefel 5 – Cliciwch yma i wylio

 

Mae rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn ar gael yma – Cam wrth Gam – Mudiad Meithrin