Blog | 28 Chw 2023

Blog Podlediad Camau Bach i’r Cwricwlwm – Pennod 6

Pennod 6 – Cyflwyniad i’r Llwybr Datblygu – Datblygiad Corfforol gyda Wendy Davies, Cylch Meithrin Ffrindiau Bach Tegryn.

 

Dyma’r chweched a’r olaf yn ein cyfres podlediadau ‘Camau Bach i’r Cwricwlwm’ gan y Mudiad. Cyfres o bodlediadau sy’n gyfle i ddysgu mwy am beth mae’r Cwricwlwm newydd yn ei olygu i blant, staff a theuluoedd Mudiad Meithrin.

Yn y bennod hon cafodd Nia Parry gwmni Wendy Davies, Arweinydd Ffrindiau Bach Tegryn yn Aberporth. Mae Wendy wedi gweithio yn y cylch ers dros 20 mlynedd, ac wedi mwynhau gweld y cylch yn datblygu yn un o Gylchoedd Canolog y Mudiad (sef cylch sy’n cael ei reoli gan Mudiad Meithrin) 8 mlynedd yn ôl. Yn ystod y bennod, cafodd Nia gyfle i holi Wendy am y Llwybr Datblygu – Datblygiad Corfforol.

“Mae’r Cwricwlwm newydd yn adeiladu ar y gwaith da oedd yma’n barod, ac mae cydnabod pwysigrwydd symud y corff trwy’r Llwybr Datblygu – Datblygiad Corfforol yn hollbwysig i ddatblygiad ein plant bach.”

Fel Mam i dri ac un sydd wedi gweithio gyda phlant bach ers dros 20 mlynedd, mae Wendy’n gyffrous bod y Cwricwlwm yn rhoi’r pwyslais ar drin pob plentyn yn unigol;

“Mae pob plentyn yn unigolyn, pob un yn unigryw. Mae rhai yn hoffi taflu pêl, eraill yn hoffi dringo creigiau neu ddawnsio. Ein rôl ni yw rhoi pob cyfle posibl iddyn nhw symud mewn gwahanol ffyrdd, cefnogi nhw i drio rhywbeth newydd, a rhoi canmoliaeth wrth iddyn nhw fentro, magu hyder a sgiliau newydd.”

Nid ymarfer corff yw ffocws y Llwybr hwn, mae’r pwyslais ar symud y corff. Esboniodd Wendy bod hynny’n hollbwysig ar gyfer datblygiad corfforol;

“Mae plant yn datblygu o’r tu fewn allan. Ni’n rhoi’r pwyslais ar y symudiade mawr; dringo’r creigiau ar y traeth, bownsio, neidio yn y mwd, hela cregyn ar y traeth, sgwennu ar y llawr, coginio tu allan, beicio…mae rhain yn bwysig er mwyn datblygu cyhyrau mawr y plant, mae’r cyhyrau bach a’r ‘motor skills’ yn dod wedyn.”

Clywodd Nia sut mae symud y corff yn y bore yn cael effaith positif iawn ar y plant;

“Bob bore, ni’n dechrau gyda CD symud y corff; neidio, cropian, rholio ar y llawr… mae’r plant yn fwy parod i ymuno a bod yn rhan o weithgareddau llonydd a gweithgareddau grŵp ar ôl symud lot. Mae hyn hefyd yn hybu lles a meddwl y plant, ar ôl iddyn nhw adael eu rhieni a gofalwyr.”

Dysgodd Nia sut mae’r Llwybr Dysgu hwn yn rhan annatod o bob un o’r llwybrau eraill yn y Cwricwlwm newydd;

“Mae plant yn symud yn naturiol, dydyn nhw byth yn llonydd am hir! Mae’r Llwybr Dysgu – Datblygiad Corfforol yn rhan annatod o’r Llwybr Datblygu Archwilio, Cyfathrebu, Lles a Pherthyn, ond mae’n grêt bod hwn yn cael ei gydnabod fel maes ynddo’i hun trwy’r Cwricwlwm newydd hefyd. Mae pawb sy’n byw ac yn gweithio gyda phlant bach yn symud mwy – mae’n dda inni gyd, ond yn dda iawn ar gyfer datblygiad y rhai bach!”

 

Mae Camau Bach i’r Cwricwlwm yn gynhyrchiad gan Bengo Media a Llais Cymru ar gyfer Mudiad Meithrin. I wrando ar y bennod hon a gweddill y gyfres, ewch i www.podfollow.com/babysteps

Wendy Davies