Am 7.00 o’r gloch nos Fercher, 1 Mai yn Neuadd y Farchnad, Rhuthun bydd y llyfr Y Brenin, Y Bachgen a’r Afon’ gan yr awdur newydd Mili Williams yn cael ei lansio fel y trydydd llyfr i’w gyhoeddi o dan gynllun ‘AwDUra’ Mudiad Meithrin.

Fe lansiodd Mudiad Meithrin y cynllun ‘AwDUra’ fis Ebrill 2022, gyda’r nod o annog lleisiau a chreadigrwydd Cymraeg ymhlith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ysgrifennu straeon i’r holl blant ifanc Cymru a thu hwnt. Cydweithiodd y Mudiad gyda dau arbenigwr ym myd ysgrifennu a chyhoeddi yng Nghymru, sef Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros i fentora’r 10 ymgeisydd fu’n rhan o’r cynllun AwDUra.

Yn ystod y lansiad yn Rhuthun bydd Manon yn cymryd rhan ar y panel trafod gyda Mili Williams a Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae taith AwDUra i roi llwyfan i leisiau gwreiddiol a newydd Cymraeg yn parhau! Ar ôl cyhoeddi gwaith Sarah Younan yng nghylchgrawn ‘Wcw’, a’r llyfrau ‘Mamgu, Mali a Mbuya gan Theresa Mgadzah Jones a ‘Granchie a’r Dderwen Fawr’ gan Chantelle Moore ar ddiwedd 2023, mae’n bleser cyhoeddi’r llyfr ‘Y Brenin, Y Bachgen a’r Afon’ gan Mili Williams o Rhuthun. Gwn y bydd plant bach ar hyd a lled Cymru’n mwynhau stori hudolus Mili a darluniau hyfryd Valériane Leblond”.

Meddai Mili Williams, awdur ei llyfr cyntaf i blant o’r enw Y Brenin, Y Bachgen a’r Afon’:

“Fy uchelgais drwy gydol fy oes oedd bod yn awdur plant ac mae AwDUra wedi gwireddu fy mreuddwydion i. Mae gweithio gyda Manon Steffan Ros wedi bod yn hynod ysbrydoledig ac roedd ei chefnogaeth wedi rhoi’r hyder i mi i gredu yn fy ngwaith ysgrifennu. Ni allwn fod wedi dod o hyd i ddarlunydd gwell na Valériane ac mae gweld fy stori yn dod yn fyw gyda’i sgiliau wedi gwireddu breuddwyd.

Wrth eistedd yma gyda’r llyfr yn fy nwylo, rwy’n hynod ddiolchgar i Mudiad Meithrin am y cyfle hwn ac nid wyf yn gallu aros i’r llyfr gael ei lansio!”

Meddai Manon Steffan Ros, awdures a dramodydd, sydd wedi bod yn fentor i Mili ar ei thaith greadigol:

“Dyma lyfr arbennig sy’n ddarllenadwy, yn ddifyr ac yn teimlo fel chwedl newydd sbon. Mae’r plethiad rhwng y geiriau a’r lluniau yn arbennig. Siŵr o fod yn ffefryn yn tŷ ni!” 

Clawr 'Y Brenin, Y Bachgen a'r Afon'
Yr Awdur, Mili Williams