Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, ein gobaith yw ein bod yn uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol a llawn bywyd.
Yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion mae Mudiad Meithrin yn dathlu cefnogi trosi a chyfieithu 6 llyfr i blant gan awduron Du, Asiaidd neu o gefndir lleiafrifol ethnig trwy gynllun ‘AwDUron’ gyda chwmni cyhoeddi ‘Lily Translates’. Bwriad cynllun ‘AwDUron’ yw dechrau llenwi’r bwlch ym maes llenyddiaeth plant o straeon gan awduron Du, Asiaidd neu o gefndiroedd lleiafrifol ethnig trwy gyfieithu’r gwaith i’r Gymraeg.
Lawnsir ‘Mae Mari’n Caru Mangos’ sef un o’r llyfrau yn y gyfres, ddydd Iau, Awst 4 am 2.00 y pnawn ar stondin Mudiad Meithrin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yng nghwmni’r awdur, Marva Carty, Jessica Dunrod o ‘Lily Translates’ a Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
Meddai’r awdur Marva Carty:
“Mae wir yn anrhydedd fod un o fy llyfrau i wedi cael ei drosi i’r Gymraeg gan felly gyrraedd cynulleidfa newydd o blant trwy gynllun ‘AwDUron’ Mudiad Meithrin a ‘Lily Translates’. Dwi’n edrych ymlaen at y lansiad yn yr Eisteddfod gan obeithio y bydd y llyfr yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o lenorion o gefndiroedd amrywiol”.

Mae cynllun gwreiddiol ‘AwDUron’ hefyd wedi ysbrydoli cynllun newydd o’r enw ‘AwDUra’ sef cynllun sy’n rhoi llais a llwyfan i Gymry Du, Asiaidd ac o gymunedau lleiafrifol ethnig i sgwennu, creu a chyhoeddi straeon i blant yn Gymraeg. Mae hynny fel fod plant yn gweld eu hunain ac amrywiaeth ein gwlad mewn llyfrau. Mae 10 o ddarpar awduron yn cymryd rhan yng nghynllun ‘AwDUra’ – ac yn cael eu cefnogi gan Manon Steffan Ros a Jessica Dunrod.

frontbhdp
Marva Carty