Ry’n ni’n falch iawn o lansio llyfr stori newydd o’r enw ‘Helfa Drysor Dewin a Doti’ gan Lleucu Lynch ynghyd â chartŵn wedi ei seilio ar y llyfr.  Cafodd y lansiad arbennig ei g gynnal am 2.00 pnawn Sadwrn, 3 Mehefin, ar ein stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri.

Mae Lleucu Lynch yn ferch i Meinir Lynch – sef awdur y ddau lyfr cyntaf erioed a ryddhawyd yn y gyfres o lyfrau Dewin a Doti nôl yn 2009. Fe lansiwyd Dewin a Doti yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009 fel dau gymeriadau hoffus i blant sydd i’w gweld ym mhob Cylch Meithrin drwy Gymru. Bellach maent wedi hen ennill eu plwyf fel ffrindiau annwyl plant bach Cymru ac mae llwyth o adnoddau ar gael sy’n cynnwys cyfresi o lyfrau, cds o ganeuon, apiau, pyped llaw Dewin a thegan meddal Doti i enwi ond rhai.

Helfa Drysor Dewin a Doti gan Lleucu Lynch yw’r llyfr diweddaraf i gael ei gyhoeddi yng nghyfres Dewin, a Lleucu hefyd a sgriptiodd y cartŵn sy’n seiliedig ar y stori.

Meddai Lleucu:

“Dwi wrth fy modd o fod wedi cael y cyfle i gamu i mewn i fyd hudolus Dewin a Doti a ’sgwennu am hanes yr Helfa Drysor.  Hyd yn oed yn fwy arbennig fyth, rwy’n falch iawn o gael dilyn ôl troed fy mam, Meinir Lynch, a gyflwynodd y ddau gymeriad hoffus i blant bach Cymru bron i 15 mlynedd yn ôl.  Diolch yn fawr i Mudiad Meithrin am y cyfle i gydweithio, ac i bawb arall fu’n gweithio ar lunio’r llyfr a’r chynhyrchu’r animeiddiad.”

Cwmni animeiddio Cloth Cat Animation (cwmni sy’n gyfrifol am animeiddio rhai o raglenni Cyw) sydd wedi animeiddio’r cartŵn, a Geraint Pickard fu’n gwneud y troslais. Rheolwyd y prosiect gan Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin.

Meddai Iola Jones,

“Ry’n ni wrth ein boddau gyda’r llyfr a’r cartŵn hyfryd yma sy’n sôn am Dewin a Doti yn cynnal helfa drysor gyda phlant y Cylch Meithrin i ddarganfod gair hud i greu tanwydd i yrru’r Balalŵn sy’n galluogi Dewin a Doti i deithio gan ymweld â phlant mewn Chylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru. Bydd hwn yn adnodd gwych nid yn unig i’r Cylchoedd Meithrin ond fel adnodd i gyflwyno’r Gymraeg yn y cartref i rieni a’u plant ifanc hefyd. Roedd hi’n bleser cydweithio gyda’r awdur dalentog Lleucu Lynch, y trosleisydd Geraint Pickard a chriw o staff amryddawn Cloth Cat Animation o Gaerdydd.”

Mae’r cartŵn ar gael i’w weld yma, a bydd fersiwn gydag is-deitlau Saesneg ar gael hefyd er mwyn i rieni di-Gymraeg a’u plant allu dilyn hynt a helynt Dewin a Doti.

Bu’n bosib creu’r adnoddau yma trwy ddyfarniad grant arbennig gan Lywodraeth Cymru i greu adnoddau addysgol Cymraeg i Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar a’r Cynnig Gofal Plant i blant rhwng 3 – 5 oed. Bwriad yr adnoddau yw hybu dealltwriaeth bellach a chyfoethogi parodrwydd y sector i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd.

Lleucu Lynch (Awdures), Dewin a Geraint Picard (Trosleisydd)
Lleucu Lynch, Dewin a Meinir Lynch