Ysgrifennodd Annalisa Rabotti, addysgwr yn Reggio Emilia: –

‘Mae plant yn tasgu gwreichion o wybodaeth, chwilfrydedd ac ymholiad, ac mae’n rhaid i oedolion fod yn barod i ddal y gwreichion hynny… Fel athro, mae’n rhaid i chi fod yn barod i’w dal nhw, i chwythu arnyn nhw a’u hannog i gynnau ac i dyfu.’

Mae’r dyfyniad hwn yn crynhoi pwysigrwydd rôl yr oedolyn. Mae yna nifer o bethau i’w hystyried wrth ddarparu profiadau i helpu’ch plant ar ddechrau’r daith addysgiadol. Yn gyntaf, rhaid gwybod eich ‘pam?’ – holwch eich hun, beth yw diben darparu’r profiad hwn, a sut fydd y plentyn/plant yn elwa? Bydd hyn yn ei lenwi â phwrpas. Yn ail, a ydych chi’n dilyn diddordeb y plentyn/plant? Mae plant yn dysgu orau pan maen nhw â diddordeb ac yn brysur. Mae defnyddio diddordebau’r plant yn sail i’r profiad yn fodd o sicrhau bod y dysgu o ddiddordeb iddyn nhw, ond hefyd â phwrpas a pherthnasedd.

Mae plant ifanc am ddysgu sut mae pethau’n gweithio, ac maen nhw’n dysgu orau drwy chwarae. Fel rhiant/gofalwr neu aelod o staff Cylch Meithrin/Meithrinfa Dydd, mae chwarae gyda’r plant yn fuddiol i’w datblygiad. Wrth chwarae mae plant yn meddwl, yn dysgu, yn datrys problemau ac yn creu. Efallai eu bod nhw hefyd yn rhedeg, yn dringo, codi, taflu, tynnu, gwthio a datblygu sgiliau motor manwl.  Wrth wneud y gweithgareddau hyn mae plant yn datblygu’r sgiliau hunanofal fel gwisgo / tynnu amdanyn nhw, bwyta, defnyddio’r toiled ac felly’n datblygu eu hunaniaeth. (Am ragor o wybodaeth am chwarae a dysgu’n seiliedig ar chwarae, gwelwch Chwarae a dysgu sy’n seiliedig ar chwarae – Mudiad Meithrin

Trwy ddarparu gwahoddiadau i ddysgu/chwarae, rydym yn cyfleu negeseuon synhwyrol i’r plant y dylen nhw ddod yma i chwarae (gwyliwch am ein hesboniad ar wahoddiadau i chwarae/dysgu yn dod yn fuan.) Gallwch wneud hyn gartref neu yn y lleoliad, y tu mewn a’r tu allan. Sut wnawn ni hyn? Fel rhiant/gofalwr y plant neu aelod o staff, gallwn arddangos ystod o ddeunyddiau a darnau rhydd a dewiswyd yn ofalus yn seiliedig ar ddiddordebau’r plant, er mwyn ennyn eu chwilfrydedd a’u sylw. Bydd hynny yn eu denu i fyd o ryfeddodau ac yn datblygu eu dysg ar draws y pum llwybr datblygiadol – cyfathrebu, archwilio, datblygiad corfforol, perthyn a lles.

 

Creda Mudiad Meithrin yng ngwerth llyfrau a meithrin cariad plant at lyfrau. O oedran ifanc iawn, mae angen i blant gael y profiad o drin llyfrau, gwrando ar straeon, a gweld harddwch y broses darllen ar waith. Y cwbl sydd eu hangen arnoch i wneud hyn ydi detholiad o lyfrau, darnau rhydd a doliau peg/anifeiliaid, ac ati.  Gall plant fynd i fyd lle nad oes terfyn ar eu dychymyg. Mae angen i lyfrau bod ar gael ym mhob rhan o’r ddarpariaeth, nid y gornel lyfrau’n unig. Dylid gosod llyfrau dethol o fewn cyrraedd y plant wrth greu gwahoddiadau i chwarae/dysgu. Ystyriwch ddefnyddio silff ffenestr isel, silffoedd, cabinet arddangos a tuff trays i arddangos y llyfrau, darnau rhydd a doliau peg. Man cychwyn yw’r llyfr, a gellir defnyddio’r adnoddau i actio’r stori, gan ddilyn trywydd meddyliau, dychymyg a chreadigrwydd y plant. (Am ragor o wybodaeth, gwelwch hyfforddiant Amser Stori Mudiad Meithrin.)

Dylid cynnig cymaint o gyfleoedd â phosib i blant gael chwarae yn yr awyr agored. Mae chwarae tu allan yn dod â chymaint o fuddion, ac yn fwy nag erioed mae angen i ni gydnabod pwysigrwydd ei effaith ar ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd cynnar.  Mae bod y tu allan yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol plant. Mae problemau iechyd meddwl yn cynyddu ymhlith plant ifanc, felly mae’n bwysig i ni fynd i’r afael â hyn drwy sicrhau ein bod yn gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn addysg plant. Mae plant yn dysgu orau pan eu bod yn hapus ac yn rhydd o straen a gorbryder. Mae’r ymarfer corff sy’n digwydd tu allan yn helpu mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant ifanc.  Mae bod y tu allan yn cynnig cyfleoedd i blant ddatblygu eu sgiliau motor bras a manwl. Mae treulio amser wedi eu hamgylchynu gan natur yn rhoi cyfle i blant ddianc rhag disgwyliadau bywyd beunyddiol. Nid yw pob plentyn yn medru cydymffurfio â’r cyfyngiadau sy’n dod o fod y tu mewn, felly mae bod y tu allan yn gyfle iddyn nhw gael gwared â gormodedd o egni, ac felly cael gwared ar ymddygiadau sydd o bosib yn heriol. Beth bynnag rydych yn ei ddarparu i’r plant dan do, mi allwch chi ei ail-greu ar raddfa fwy, fwy swnllyd tu allan!

Am ragor o wybodaeth ar lesiant a dysgu tu allan, cliciwch ar y dolenni isod:

meithrin.cymru/wp-content/uploads/2023/07/Astudiaeth_Achos_Bro_Alun_S.pdf

Baby Steps into the Curriculum – Meithrin

View – Hwb (gov.wales)

Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel – Outdoor Learning – YouTube

Ysgol Feithrin Pontypwl Case study (meithrin.cymru)

 

Manteision Chwarae Natur

Os ydych am ddarparu profiadau diddorol, perthnasol yn seiliedig ar ddiddordebau’ch plentyn/plant, ond ddim yn siŵr sut i ddechrau arni, defnyddiwch y canlynol fel canllaw:

  • Arsylwch sut maen nhw’n chwarae
  • Nodwch hynny ar bapur
  • Gwrandewch a siaradwch gyda nhw
  • Byddwch yn agored i’w syniadau nhw
  • Rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw

Wrth wneud hyn byddwch yn darparu profiadau cadarnhaol, go iawn, yn seiliedig ar eu diddordebau. Mae gan rieni, gofalwyr ac ymarferwyr rôl allweddol i’w chwarae yma.

Rydym wedi darparu rhai syniadau ar brofiadau sy’n ennyn diddordeb sydd hefyd yn cyd-fynd â’n hadnodd cynllunio wedi’i seilio ar ein calendr digwyddiadau. Rydym yn dilyn y tymhorau a natur. Gellir defnyddio’r syniadau hynny ar eu pen eu hunain, neu gyda’r adnodd cynllunio.

 

Ar fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Judith Grigg BEd (Hons) MAEd, Prif Swyddog Dysgu Sylfaen.

judith.grigg@meithrin.cymru

Cliciwch isod i ddarllen am fanteision chwarae natur;

 

Cliciwch isod i weld taflen ar bethau i’w gwneud gyda’ch plant yn yr Hydref;

 

Cliciwch isod i weld taflen ar bethau i’w gwneud gyda’ch plant yn y Gaeaf;

Cliciwch isod i weld taflen ar bethau i’w gwneud gyda’ch plant yn y Gwanwyn;