Mae creu amodau teg i bawb ffynnu a theimlo eu bod yn perthyn yn rhan ganolog o wireddu gweledigaeth Mudiad Meithrin.

Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb, felly mae ein gwaith ym maes tegwch a chynwysoldeb yn mynd law yn llaw â’n cenhadaeth i ledaenu mynediad i addysg a gofal cynnar cyfrwng Cymraeg.

Mae mabwysiadu ffyrdd gwrth-hiliol o weithredu yn hollbwysig i Mudiad Meithrin. Ni fyddwn yn goddef hiliaeth. Rydym yn falch o gydweithio â phartneriaid i gyflawni amcanion ‘Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol’ Llywodraeth Cymru.

Mae ein gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Sicrhau gweithle sy’n croesawu pawb a gweithlu sy’n deall pwysigrwydd tegwch a gwrth-hiliaeth.
  • Cynnal gwasanaethau sy’n gynrychioliadol ac sy’n hyrwyddo cynwysoldeb.
  • Cefnogi Cylchoedd a Meithrinfeydd i ddatblygu eu ymarfer fel bod pobl o bob cefndir yn dod i berthyn a bod yn rhan o’r lleoliad.
  • Gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n uniaethu ag un o’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (e.e. anabledd, crefydd, hil, cyfeiriadedd rhywiol, oed).

Mae gan Mudiad Meithrin Brif Swyddog sy’n arwain y gwaith tegwch a chynwysoldeb, ac sydd ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth i staff a lleoliadau am faterion polisi yn ymwneud â gwrth-hiliaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth: Menna Machreth (Prif Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mudiad Meithrin): menna.machreth@meithrin.cymru.

Yn 2019, cyhoeddodd Mudiad Meithrin Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth am y tro cyntaf, ac yn 2023 fe gyhoeddwyd Gwerthusiad o’r Strategaeth a oedd yn cofnodi a chloriannu’r gwaith a wnaed o ganlyniad i’r Strategaeth. Yn 2024, cyhoeddwyd cynllun newydd a fydd yn parhau â’r daith tuag at fod yn fudiad gwrth-hiliol a theg lle gall bawb deimlo eu bod yn perthyn.

Strategaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2019-2022 : Gwerthusiad

Lawrlwytho

Mae Pawb yn Perthyn: Cynllun Gwrth-hiliaeth a Thegwch 2024 – 2027

Lawrlwytho