Hwre, ti wedi gorffen y cwrs. Llongyfarchiadau

Gweledigaeth Mudiad Meithrin yw i bob plentyn yng Nghymru allu dysgu a chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy roi’r Gymraeg i blant ifanc Cymru, rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg amlddiwylliannol agored a llawn bywyd.

Ar drothwy’r etholiadau lleol mae Mudiad Meithrin yn gofyn i bob plaid wleiddyddol roi blaenoriaeth i ddyfodol plant bach Cymru trwy addunedu i:

  • ystyried effaith pob penderfyniad yn y Cyngor ar fywyd plant yn y Blynyddoedd Cynnar
  • weithio i sicrhau caiff pob plentyn yn ei Ward fanteisio ar ofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyfrannu at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg
  • weithio i ehangu mynediad i gynllun trechu tlodi ‘Dechrau’n Deg’ er mwyn gwella ansawdd bywyd plant bach.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Fel Mudiad sy’n angerddol am roi’r dechrau gorau i bob plentyn yng Nghymru, ry’n ni wedi anfon copi o’r addewidion hyn at bob plaid wleidyddol yng Nghymru i’w rhannu ymysg eu hymgeiswyr gan ofyn iddynt ymrwymo i’r addewidion hyn. Ry’n ni’n  herio pob darpar Gynghorydd Sir i weithredu o blaid gofal plant ac addysg Gymraeg a gwireddu ymrwymiad y cytundeb cydweithio o blaid darparu gofal plant yn Gymraeg. Mae ffordd bell i fynd er mwyn gwireddu’r freuddwyd o bob plentyn yn gadael y system addysg yn siaradwyr Cymraeg hyderus.”