Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi’r enillwyr a ddaeth i’r brig yn ein Seremoni Gwobrau a gynhaliwyd yn yr Ysgubor, Fferm Bargoed, Aberaeron ddydd Sadwrn diwethaf (14 Hydref).

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd ac fe gyflwynwyd y seremoni mewn modd slic a phroffesiynol iawn gan Melanie Owen.
Prif noddwr y seremoni eleni oedd cwmni Portal – cwmni blaenllaw sy’n darparu hyfforddiant dwyieithog sydd a’i weledigaeth yn gadarn ar wella a datblygu gallu gweithluoedd.

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Roedd y Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar gan ddangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Cafwyd dros 300 o enwebiadau eleni ac mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Mae’r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i’n staff a’n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.

Gwirfoddolwr - Rhiannon Hughes, Cylch Meithrin Rhaeadr, Powys
Cylch i Bawb - Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion
Cynorthwy-ydd - Siobhan Durber, Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid, Ceredigion
Ardal Chwarae a Dysgu Tu Allan - Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd
Pwyllgor - Cylch Meithrin Dyffryn Banw, Powys
Meithrinfa Ddydd - Meithrinfa Hen Ysgol, Porthmadog, Gwynedd
Arweinydd - Gwen Davies, Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid, Ceredigion
Dysgu a Datblygu - Cylch Meithrin Nant Dyrys, Rhondda Cynon Taf
Dysgwyr y Flwyddyn - Alyssia Edwards, Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gâr
Cylch Meithrin Bach - Cylch Meithrin Clocaenog, Sir Ddinbych
Ti a Fi - Ti a Fi Yr Wyddgrug, Sir y Fflint (Carys Gwyn yn casglu ar ran y cylch)
Cylch Meithrin y De-ddwyrain - Cylch Meithrin Y Gurnos, Merthyr Tudful
Cylch Meithrin y De-Orllewin - Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid, Ceredigion
Cylch Meithrin y Gogledd-orllewin - Cylch Meithrin Y Gorlan Fach, Tremadog, Gwynedd
Cylch Meithrin y Gogledd-ddwyrain a'r Canolbarth - Cylch Meithrin Min y Ddôl, Wrecsam
Cylch Meithrin Cymru - Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid