Dyma fydd digwyddiad cyntaf Rocio Cifuentes yn ei rôl newydd fel Comisiynydd Plant Cymru.
Ar ddydd Iau 19 Mai bydd Mudiad Meithrin yn cynnal Cynhadledd Blynyddoedd Cynnar, ‘Llais y Plentyn’, yn Llandudno ar gyfer Staff Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd, staff Mudiad Meithrin ac athrawon ymgynghorol y Cyfnod Sylfaen.
Y gynhadledd hon fydd y gynhadledd wyneb-yn-wyneb gyntaf i’r Mudiad ei chynnal ers pandemig Covid-19 ac fe fydd yn gyfle i drafod, rhwydweithio a rhannu syniadau newydd wrth i leoliadau addysg yng Nghymru groesawu Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022 .
Bydd dwy siaradwr gwadd yn cychwyn y digwyddiad yn Venue Cymru Llandudno: Rocio Cifuentes, y Comisiynydd Plant Cymru newydd a Liz Pemberton, sef Cyfarwyddwr ‘The Black Nursery Manager’.
Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin:
“Mae’r gynhadledd hon wedi ei chynllunio yn bwrpasol i gydfynd â rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith ym mis Medi. Ry’n ni’n falch iawn fod siaradwyr gwadd arbennig yn ymuno â ni i rannu eu gwbodaeth, i’n dysgu ac i’n hysbrydoli, ynghyd ag elwa o weithdai gydag arbenigwyr amrywiol. Bydd popeth yn bethnasol ar gyfer gweithredu’r cwricwlwm newydd ym mis Medi felly dyma gyfle gwych i ddysgu rhagor a chael arweiniad mewn cyfnod sydd mor bwysig yn hanes y blynyddoedd cynnar”.
Mae’r diwrnod cyfan am ddim ac bydd cyfle i’r mynychwyr gymryd rhan yn un o’r gweithdai isod:
Gweithdy 1: Y Goeden Ioga – sesiwn ymarferol yng nghwmni Leisa Mererid ar sut i gyflwyno ioga i blant bach.
Gweithdy 2: Cyflwyniad i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg – cyfle i glywed mwy am yr adnodd Dewch i Ddathlu ar 6 o brif grefyddau’r byd a’r uned newydd ar Ddyneiddiaeth (Humanism), yng nghwmni awdur yr adnodd Helen Roberts.
Gweithdy 3: Coginio gyda’n Gilydd – cyfle i drafod pwysigrwydd coginio’n iach, rhannu syniadau am weithgareddau bwyd sy’n addas ar gyfer y blynyddoedd cynnar – gweithdy ymarferol gyda Richard Shaw.
Gweithdy 4: Hawliau Plant – cyflwyniad gan swyddogion o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ar rôl Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a rôl a phwerau’r Comisiynydd Plant Cymru.
Gweithdy 5: Gweithredu mewn modd gwrth hiliol – cyflwyniad gan Liz Pemberton fydd yn tynnu sylw at gamau ymarferol y gellir eu cymryd er mwyn gweithredu mewn modd gwrth-hiliol gyda theuluoedd a phlant yn y blynyddoedd cynnar.
I gloi’r diwrnod, bydd Hannah Chivers, Uwch-reolwr Polisi Llywodraeth Cymru yn rhannu negeseuon mwyaf cyfredol am y Cwricwlwm Newydd ar gyfer lleoliadau a ariennir nas cynhelir. Bydd hefyd yn amlinellu’r adnoddau dysgu proffesiynol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.