Mae Mudiad Meithrin mewn partneriaeth â Portal Training wedi lansio cynllun mentora newydd sbon o’r enw Meithrin Gyrfa ddydd Llun 10 Ionawr 2022.

Bwriad Meithrin Gyrfa yw arfogi ac uwchsgilio unigolion i fedru datblygu eu gyrfaoedd gan dynnu ar brofiadau, gwybodaeth a chysylltiadau Mudiad Meithrin fel rhan o’i weledigaeth a’i gyfraniad at wireddu Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i gyrraedd  miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Rydym am ddarparu cyfleoedd i unigolion sydd:

  • eisiau magu hyder yn eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • yn ddi-hyder wrth ddefnyddio eu Cymraeg gan nad ydynt wedi cael cyfle i ddefnyddio’r iaith ers dyddiau ysgol ond sydd â diddordeb dilyn gyrfa yn y maes
  • ar drobwynt yn eu gyrfa ac am ddatblygu eu hunain, ac ysbrydoli eraill

Beth bynnag fo’r rheswm, rydym yn annog unigolion o bob oedran a chefndir i wneud cais i fod yn rhan o’r cynllun, a bod yn arweinyddion a modelau rôl positif i eraill.

Meddai Helen Williams, Pennaeth Tîm Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin:

“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at roi’r cynllun yma ar waith. Mae Meithrin Gyrfa wedi ei greu er mwyn cefnogi unrhyw un sydd am weithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun yn rhan o weledigaeth ehangach Mudiad Meithrin o ran cefnogi’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac hefyd yn cyfrannu tuag at economi ein cymunedau lleol o safbwynt rhoi’r sgiliau a’r hyder i unigolion fynd am swydd yn y sector Gymraeg.”

“Mae adran hyfforddiant, dysgu a datblygu Mudiad Meithrin yn falch o safon ac ansawdd ei ddarpariaeth cyson i’w haelodau, a thrwy  gynllun Meithrin Gyrfa ry’n ni’n medru agor y drws i fwy o unigolion elwa o arbenigeddau a phartneriaethau’r Mudiad.”

Drwy’r cynllun 4 mis yma bydd 20 o ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth benodol gan fentoriaid a hyfforddwyr profiadol a fydd yn:

  • creu cynllun datblygu personol
  • adnabod cyfleoedd i loywi sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig
  • helpu i greu argraff wrth ysgrifennu ffurflen gais
  • codi hyder mewn cyfweliad
  • darparu sesiynau hyfforddi a mentora 1:1
  • sicrhau iechyd a lles yr unigolyn

I wneud cais am gael bod yn rhan o Meithrin Gyrfa, rhaid cwblhau ffurflen datgan diddordeb erbyn 28 Ionawr 2022. Am ragor o wybodaeth a ffurflen datgan diddordeb ewch i  Meithrin Gyrfa – Mudiad Meithrin neu e-bostiwch helen.williams@meithrin.cymru