Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg gan greu miloedd o siaradwyr Cymraeg newydd yn flynyddol, ry’n ni’n falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi penodi Carys Gwyn fel Pennaeth Tîm Hyfforddiant Iaith i arwain ar ein holl gynlluniau ieithyddol.
Bydd Carys Gwyn yn cychwyn ar ei swydd fel Pennaeth Tîm Hyfforddiant Iaith ym mis Ebrill, yn ogystal â bod yn rhan allweddol o Dîm Strategol y Mudiad. Mae Mudiad Meithrin wedi bod yn llinyn arian trwy yrfa Carys ers iddi gael ei phenodi gyntaf fel Swyddog Cefnogi yn Sir y Fflint yn ôl yn 2004. Yn fuan iawn fe’i dyrchafwyd yn Gydlynydd y Gogledd-ddwyrain ac yna’n Gyfarwyddwr ar draws y Gogledd ac ar hyn o bryd mae’n Rheolwr Talaith y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth.
Meddai Carys Gwyn:
“Mae cael arwain ar adran a fydd yn dwyn popeth sydd yn ymwneud â chaffael, trosglwyddo a throchi iaith at ei gilydd o fewn y Mudiad trwy amryw gynlluniau yn gyfle cyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen i gydweithio â nifer o bartneriaethau hen a newydd i gefnogi’r gweithlu, y gwirfoddolwyr a theuluoedd ar eu taith iaith.”
Diben y swydd yw arwain ar adran newydd sy’n pontio sawl cynllun pwysig yn nhrefniadaeth hyfforddiant iaith Mudiad Meithrin er mwyn dylanwadu ar faes datblygu a chefnogi sgiliau iaith y gweithlu gofal plant a theuluoedd. Yn fras, cyfeiria hyn at gynllun trochi iaith Croesi’r Bont a chynllun Clebran (Clebran – Mudiad Meithrin), cynllun Cymraeg i’r teulu Clwb Cwtsh, a chynllun Cymraeg yn y gweithle Camau.
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Mae Carys yn dod â blynyddoedd o brofiad a gwybodaeth i arwain yr adran newydd hon. Fe fydd hyn yn ein galluogi i dyfu’n dylanwad ym maes cynllunio ieithyddol gan ymateb i anghenion y gweithlu gofal plant, ysgolion a theuluoedd. Edrychaf ymlaen at gyd-weithio â hi”.
