Mae Mudiad Meithrin yn falch iawn o ddarlledu eu cartŵn cyntaf erioed fel adnodd gwych i gyflwyno’r Gymraeg yn y cartref i rieni a’u plant ifanc.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Animeiddio (28 Hydref) bydd Mudiad Meithrin yn rhyddhau eu cartŵn cyntaf erioed ‘Dewin a Doti a’r Geiriau Hud’ sy’n sôn am y ddau gymeriadau hoffus i blant sydd i’w gweld ym mhob Cylch Meithrin drwy Gymru.
Fe sgriptiwyd y stori gan Anni Llŷn, a hi a’i gŵr Tudur Phillips sydd wedi trosleisio’r cartŵn hefyd. Cwmni animeiddio Cloth Cat Animation (cwmni sy’n gyfrifol am animeiddio rhai o raglenni Cyw) sydd wedi animeiddio’r cartŵn a rheolwr y prosiect oedd Iola Jones, Pennaeth Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin. Bydd y cartŵn i’w weld ar blatfformau digidol Mudiad Meithrin yn ogystal ag ar AM am 11yb – Mudiad Meithrin | AM (amam.cymru)
Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Ry’n ni wrth ein boddau gyda’r cartŵn hyfryd yma sy’n sôn am Dewin a Doti yn ymweld â Chylch Meithrin Cwm Bychan Bach i chwilio am ‘eiriau hud’ – sef y tanwydd sydd ei angen arnynt i yrru’r Balalŵn fel eu bod yn gallu teithio yn yr awyr i ymweld â Chylchoedd Meithrin ar hyd a lled Cymru. Roedd hi’n bleser cydweithio gyda’r awdur a’r sgriptwraig dalentog Anni Llŷn a gyda chriw o staff amryddawn Cloth Cat Animation o Gaerdydd.”
Bydd fersiwn gydag is-deitlau Saesneg ar gael hefyd er mwyn i rieni di-Gymraeg a’u plant allu dilyn hynt a helynt Dewin a Doti.