Datblygwyd y cwricwlwm hwn ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir am ei fabwysiadu, pe bydden nhw’n dymuno gwneud hynny.
Mae’n rhan o’r Cwricwlwm i Gymru.
Dylai lleoliadau sy’n dewis mabwysiadu’r cwricwlwm hwn ei ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gefnogi cynllunio effeithiol i sicrhau datblygiad cwricwlwm sy’n ddatblygiadol addas i’n dysgwyr ieuengaf.
At ddefnydd y canlynol y mae yn bennaf:
- arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar yng Nghymru
- athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar, neu’r rhai mewn rolau cyfatebol mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sy’n cefnogi lleoliadau wrth gynllunio a darparu addysg gynnar
- sefydliadau eraill sy’n darparu cymorth proffesiynol i leoliadau nas cynhelir
- arweinwyr, ymarferwyr a phwyllgorau rheoli lleoliadau meithrin nas cynhelir nad ydyn nhw’n cael eu hariannu i ddarparu addysg gynnar ond y mae’n ofynnol, o dan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir, iddyn nhw ymarfer yn unol â gofynion statudol y cwricwlwm.
I dderbyn copi o’r adnodd, archebwch yma.
Dathlu’r cwricwlwm
Dyma adnodd newydd sy’n cyflwyno prif elfennau’r cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir.
Cyfres o sgyrsiau gydag ymarferwyr sy’n rhannu eu profiadau o roi’r cwricwlwm ar waith. Mae’r adnodd yn cael ei rannu’n chwe rhan – fformat hwylus ar gyfer trafod un rhan ar y tro, naill ai mewn cyfarfod tîm neu’n eich amser eich hun.
I dderbyn copi o’r adnodd, archebwch yma.
NEWYDD! Gwneud Mathemateg yn Bwrpasol ac Ystyrlon
Dyma rhan gyntaf o adnodd newydd sy’n archwilio cysyniadau mathemategol ac yn trafod sut i gyflwyno’r cysyniadau hyn i blant bach. Bydd ail ran yr adnodd yn archwilio’r cysyniadau hyn yn fanylach ac yn rhannu arfer da o leoliadau Mudiad Meithrin.
Cliciwch isod i weld carden post ar Miri Mawr;