Gweledigaeth Mudiad Meithrin yw bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu dysgu a chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n braf gweld plant sydd wedi ffoi o’r rhyfel yn Wcrain hefyd yn derbyn gofal a chymorth drwy un o Gylchoedd Meithrin Sir Gâr.
Mae Lev ac Yeva (brawd a chwaer sy’n 4 a 3 oed) ynghyd ag aelodau o’u teulu wedi derbyn lloches mewn pentref gwledig ger Rhydaman ar ôl ffoi o ryfel Wcrain. Maent yn mynd i Gylch Meithrin yn y pentref ac yn mwynhau chwarae a dysgu gyda’u ffrindiau bach newydd a’r staff.
Meddai Leanne Marsh, Pennaeth Adran Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Mae’n anodd gwybod sut mae dechrau crynhoi stori Lev ac Yeva. Mae eu stori, fel un cynifer o blant sy’n ffoaduriaid, yn un sy’n anodd i ni ddechrau deall ei wir effeithiau. Rydym yn arbennig o falch fel Mudiad o waith ein haelodau – Cylchoedd Meithrin, Cylchoedd Ti a Fi a meithrinfeydd dydd – sy’n cynnig noddfa i blant bach. Eu holl ddiben yw ceisio sicrhau eu bod yn cael cyfle i fod yn blant, ac mae staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i wireddu hyn.
Rydym yn ymwybodol fod stori Lev ac Yeva yn un sy’n cynrychioli nifer o blant eraill ar draws Cymru sydd wedi ffoi rhag erledigaeth ac rydym yn ddiolchgar am y cydweithio gydag elusen y Groes Goch ac eraill wrth i ni gefnogi cylchoedd i groesawu plant o bob cefndir.”
